Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn cyhoeddi cyfres o ‘ffeiliau achos’ a fydd yn cynnwys lleoedd rydym wedi anghofio amdanynt wrth i ni gerdded heibio iddynt bob dydd, a rhai o’r bobl sydd wedi dylanwadu ar fywyd yn Abertawe.
Byddwn hefyd yn eich herio i edrych eto ar ein hardaloedd lleol trwy weithgarwch creadigol neu oherwydd chwilfrydedd – rydym yn siŵr y byddwch chi’n dechrau gweld ein cymdogaethau mewn ffordd wahanol, gan ddod o hyd i brydferthwch pethau cyffredin a thrwy ddefnyddio adnoddau ar-lein i ddatgelu hanesion cudd.
Cadwch lygad am ein ffeiliau achos, gan gynnwys ein harch-dditectif ‘Sherlock Jo Joio’ – maent wedi’u creu yn arbennig ar gyfer plant ifanc a chwilfrydig.
Wyddech chi roedd Lisbon yn Abertawe? Rydym ni’n gwybod mai Lisbon yw prif ddinas Portiwgal, ond mae Lisbon hefyd yn ardal yn Abertawe. Rhowch gynnig ar chwilio am ‘Lisbon Abertawe’ ar-lein, a bydd y canlyniadau’n eich synnu!
Palwch ar-lein i ddarganfod rhagor am y bobl a’r lleoedd hanesyddol yn eich ardal leol trwy ddefnyddio’r adnoddau ar-lein defnyddiol hyn.