fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Fel cyrchfan cyfrifol, hoffai Bae Abertawe gefnogi diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr â’r ardal:

 

*Diweddariad i Reoliadau Coronafeirws Cymru*

Ddydd Gwener 28 Ionawr, bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero:

  • Bydd clybiau nos yn ailagor.
  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau’r perygl o ledaenu’r coronafeirws.
  • Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sydd ar agor i’r cyhoedd a gweithleoedd yn dod i ben.
  • Ni fydd y rheol chwech o bobl mewn grym mwyach ar gyfer ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig na chasglu manylion cyswllt.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori gweithio gartref ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach.
  • Bydd y Pàs Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

Bydd y rheolau hunanynysu ar gyfer pawb sy’n cael canlyniad positif i brawf Covid a’r rheolau ar wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd cyhoeddus dan do yn parhau ar ôl 28 Ionawr.

Dilynwch y dolenni swyddogol isod i gael yr arweiniad a’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â COVID-19. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gan ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio fel y bo’n briodol.

Isod ceir dolenni i wybodaeth ddynodedig ar gyfer ymwelwyr sy’n teithio i Abertawe a phreswylwyr y mae angen yr wybodaeth ddiweddaraf arnynt o ran newidiadau i’r ddinas.  Cymerwch amser i ddarllen yr wybodaeth hon i ddiogelu eich hun, eich teulu a’ch ffrindiau, yn ogystal â’r lle cymunedol y byddwch yn ei rhannu