fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Joio'r Haf yn Abertawe

Gyda gwyliau’r haf yn agosáu a’r addysg yn y cartref wedi dod i ben am nawr, rydym wedi llunio rhestr wirio o bethau hwyl i’ch plant ifanc eu mwynhau yn ystod y 6 wythnos.

Mae’r rhestr yn cynnwys gweithgareddau megis sesiynau adrodd straeon rhithwir o’r llyfrgell, syniadau celf a chrefft gallwch eu gwneud gartref gan y Glynn Vivian a Chanolfan Dylan Thomas, pethau y gallwch chwilio amdanynt ar y traeth, gweithgareddau difyr gan fasgot Joio Bae Abertawe, Jo-Joio yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol, cystadlaethau a gwobrau.

Cofiwch, wrth i chi fynd o le i le yn mwynhau gweithgaredd, dylech fod yn gyfrifol ac yn ystyriol a dilyn cyfarwyddiadau diogelwch penodol oherwydd rydym am i Abertawe fod yn lle diogel i’n preswylwyr. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cadw pellter cymdeithasol – cadwch 2m ar wahân.
  • Golchi’ch dwylo’n rheolaidd am 20 eiliad neu fwy, yn enwedig cyn ac ar ôl gadael y tŷ.
  • Aros gartref os ydych chi’n teimlo’n sâl, yn enwedig os oes gennych beswch parhaus, tymheredd uchel neu os ydych wedi colli’ch synnwyr blasu neu arogli.
  • Gadael olion traed yn unig – defnyddiwch y biniau a ddarperir i gael gwared ar eich sbwriel – os bydd y rhain yn llawn neu os nad oes bin ar gael, ewch â’r sbwriel gartref gyda chi.

Felly, beth am gymryd cip ar y rhestr o bethau hwyl o’n lleoliadau isod? Gobeithio y cewch chi haf gwych ac ewch ati i Joio Bae Abertawe. Ond byddwch yn gyfrifol.

Lido Blackpill

Dewch i fwynhau parc dŵr awyr agored ac am ddim Abertawe sy’n cynnig pad sblasio a nodweddion dŵr wrth i Lido Blackpill ailagor ddydd Sadwrn 22 Awst rhwng 9am a 5pm, 7 niwrnod yr wythnos tan 13 Medi. Mwynhewch yr ardal chwarae i blant, y graig ddringo a’r cyfleusterau picnic. Ond byddwch yn gyfrifol.

Cofiwch, dewch i Joio Bae Abertawe. Yn gyfrifol.