fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy
BLOG | June 10, 2020

Cyngor Abertawe i ddathlu Sioe Awyr Cymru gyda dathliad digidol rhithwir

Eleni, mae tîm Cyngor Abertawe sy’n trefnu digwyddiad blynyddol Sioe Awyr Cymru’n bwriadu nodi’r digwyddiad mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Yn anffodus, ni fydd y digwyddiad hynod boblogaidd yng nghalendr digwyddiadau Abertawe’n digwydd eleni oherwydd y pandemig Coronafeirws. Fodd bynnag, yn hytrach nag anwybyddu’r bwlch yn y calendr, mae’r tîm wedi datblygu dathliad digidol o Sioe Awyr Cymru ar gyfer ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf rhwng 11am a 5pm. Bydd y digwyddiad rhithwir hwn yn dangos uchafbwyntiau gorau rhai o’r timau arddangos sydd wedi perfformio ym Mae Abertawe, gan gynnwys y Chinook, y Tutor, Hediad Coffa Brwydr Prydain, y Tigers a’r Red Arrows gwych.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae pawb yn dwlu ar Sioe Awyr Cymru, sef un o uchafbwyntiau ein calendr digwyddiadau blynyddol, a ddenodd dros 250,000 o bobl y llynedd. Roedd timau Digwyddiadau a Marchnata ein Gwasanaethau Diwylliannol yn amlwg yn siomedig na allai’r digwyddiad fynd yn ei flaen ond roeddent yn benderfynol o sicrhau y gallai’r cyhoedd fwynhau digwyddiad amgen i nodi’r achlysur. Rydym bellach yn cynllunio dathliad o Sioe Awyr Cymru y gall pobl ei fwynhau o’u cartrefi eu hunain.”

“Cynhelir y digwyddiad digidol mewn cydweithrediad â Ron Skinner & Sons, a bydd yn cynnwys uchafbwyntiau’r arddangosiadau awyr gwahanol o’r gorffennol, a fydd yn hel atgofion melys i’r rhai a ddaeth i’r digwyddiadau hynny ac yn denu cynulleidfaoedd newydd ar gyfer y dyfodol.”

Mae digwyddiad Sioe Awyr Cymru’n addas ar gyfer teuluoedd a bydd gweithgareddau cysylltiedig i blant cyn y digwyddiad, gan gynnwys chwileiriau, cwisiau, gweithgareddau creu awyrennau a thaflenni lliwio, yn ogystal â chystadlaethau gwych.

earches, quizzes, plane-making and colour-in sheets, and some great competitions too.

Am fanylion llawn dathliad digidol Sioe Awyr Cymru ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf, ewch i www.walesnationalairshow.com/cy/ a dilynwch y digwyddiad ar Facebook.