fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Marchnad Nadolig Abertawe

Dydd Gwener 24 Tachwedd – Dydd Merched 20 Rhagfyr 2023.

Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe o 24 Tachwedd i 20 Rhagfyr. Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yn cynnig anrhegion unigryw, danteithion i’ch temtio ac addurniadau hardd. 

Marchnad Nadolig Abertawe — Swansea City Centre

 

Bydd llawer o wynebau cyfarwydd yn aros i’ch cyfarch ond mae rhai masnachwyr gwych newydd hefyd – y bydd rhai ohonynt yma am ychydig amser yn unig, felly cymerwch gip ar ‘Arweiniad Siopa Marchnad y Nadolig’ i sicrhau nad ydych yn colli’ch cyfle!

 

Mae’r Bar Bafaraidd yn cynnig seddi cyfforddus dan gysgod,  siocledi poeth moethus blasus a gwin y gaeaf twym – y trît perffaith ar ôl yr holl siopa!

 

 

 

 

 

Bydd y dathliadau’n dechrau ddydd Sadwrn 25 Tachwedd pan fydd Caban y Carolwr ar Portland Street a Marchnad Abertawe yn cynnal y digwyddiad gwych, Uchelwydd a Marchnadoedd. Caban y Carolwr yw’r canolbwynt hefyd ar gyfer rhaglen o adloniant Nadoligaidd, gan gynnwys corau ysgolion, am barhad Marchnad y Nadolig. Pan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer perfformiadau, gallwch gamu i mewn i’r olygfa ddisglair a thynnu’r llun teuluol Nadoligaidd perffaith.   

Marchnad Nadolig Abertawe — Swansea City Centre

 

 

Sicrhewch eich bod yn dilyn Facebook a Twitter hefyd gan y byddwn yn postio’r newyddion diweddaraf am Farchnad Nadolig Abertawe.