fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Os hoffech deithio ar hyd Prom Abertawe mewn steil, ewch ar Drên Bach Bae Abertawe!

Mae ein trên bach y bae sydd â 72 o seddi, yn teithio ar hyd Prom Abertawe rhwng Lido Blackpill a Gerddi Southend yn y Mwmbwls, a gall teithwyr fwynhau golygfeydd gwych o Fae Abertawe ar hyd y daith.

Felly p’un a ydych am eistedd a mwynhau’r olygfa mewn steil neu gael taith hamddenol ar ôl diwrnod o hwyl yn yr haul, ewch ar Drên Bach Bae Abertawe!

Bydd Trên Bach Bae Abertawe yn ailagor ar 23 Mawrth 2024 a bydd yn rhedeg bob penwythnos, 7 niwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol.

Bydd y Trên Bwganod Nos Galan Gaeaf wedi’i addurno’n frawychus ddydd Llun 30 a dydd Mawrth 31 Hydref.

Amserlen
Mae 5 arhosfan: Blackpill, y parc sglefrio, West Cross, Norton a Sgwâr Ystumllwynarth (maes parcio’r Llaethdy)

BLACKPILL I FAES PARCIO’R LLAETHDY – YN YSTOD YR HAF

SAFLE Gwyliau’r haf
Blackpill 10.30am 11.30am 12.30pm 2.00pm 3.00pm 4.00pm 5.00pm
Parc Sglefrio 10.35am 11.35am 12.35pm 2.05pm 3.05pm 4.05pm 5.05pm
West Cross 10.40am 11.40am 12.40pm 2.10pm 3.10pm 4.10pm 5.10pm
Norton 10.45am 11.45am 12.45pm 2.15pm 3.15pm 4.15pm 5.15pm
Ystumllwynarth (Maes parcio’r Llaethdy) 11.00am 12.00pm 1:00pm 2.30pm 3.30pm 4.30pm 5.30pm

Ystumllwynarth (maes parcio’r Llaethdy) i Blackpill

STOP Summer Holidays
Oystermouth (Dairy car park) 11am 12pm 1pm 2.30pm 3.30pm 4.30pm 5.30pm
Norton 11.05am 12.05pm 1.05pm 2.35pm 3.35pm 4.35pm 5.35pm
West Cross 11.10am 12.10pm 1.10pm 2.40pm 3.40pm 4.40pm 5.40pm
Mumbles Skatepark 11.15am 12.15pm 1.15pm 2.45pm 3.45pm 4.45pm 5.45pm
Blackpill 11.30am 12.30pm 1.30pm 3pm 4pm 5.pm 6pm

Sylwer: Mae Trên Bach Bae Abertawe yn dibynnu ar y tywydd, ac ni fydd yn teithio os bydd yr amodau’n wael.

Prisiau

Mae ein tocyn ‘mynd-fel-y-mynnoch’ yn eich caniatáu i fynd ar y trên a’i adael gynifer o weithiau ag y dymunwch drwy gydol y dydd.

  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch safonol – £7.00
  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch consesiwn (dan 16 oed, myfyrwyr a’r henoed) – £6.00
  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch Pasbort i Hamdden – £4.30
  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) – £17.00

Prynwch eich tocyn ar y trên gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn.

Hygyrchedd

Mae Trên Bach Bae Abertawe yn gwbl hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn. Caniateir cŵn ar y trên os ydynt ar dennyn ac o dan reolaeth. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch outdoorattractions@abertawe.gov.uk