fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Traethau #HwylBaeAbertawe

Share

Arfordir Anhygoel

BeachesGydag oddeutu 20 i ddewis ohonynt, mae gennym draethau sy’n addas i bob naws a gweithgaredd. Ni waeth pa brofiad glan môr sy’n eich temtio, mae gennym draeth delfrydol ar eich cyfer. Ceir mannau cysgodol fel bae hardd Langland (ynghyd â’i gytiau glan môr pert o’r oes a fu), cyfrinachau cudd fel traeth anghysbell Pwll Du, a llond bwced a rhaw o ffefrynnau’r teulu cyfan, gan gynnwys Porth Einon ac Oxwich. Mae gennym draethau o fri a llawer ohonynt wedi ennill gwobrau am eu harddwch. A’r seren ddisglair yn eu mysg yw Rhosili gogoneddus, sy’n ymddangos yn aml mewn rhestrau o draethau gorau’r byd.

 


Ein Planed Las

BeachesEwch ar saffari glan môr. Gall fforwyr bach chwilio am grancod, sêr môr, anemonïau ac amrywiaeth o greaduriaid morol bychain eraill ym mhyllau trai Bae Bracelet a Bae Limeslade, ill dau yn gyfleus i’r cyrchfan gwych i deuluoedd, y Mwmbwls. Neu ewch ychydig ymhellach ar daith llawn cyffro ar gwch o amgylch arfordir diddiwedd Penrhyn Gŵyr. Mae ein harfordir hardd yn lloches i fywyd gwyllt y tir a’r môr, o’r gwylogod, gweilch y penwaig a’r palod sy’n nythu ar y clogwyni creigiog i’r morloi, y dolffiniaid a’r llamhidyddion sy’n gwibio drwy’r tonnau.


Gemau ar y tywod

BeachesNid yw ein traethau i’r rhai sy’n addoli’r haul yn unig. Maent hefyd yn berffaith ar gyfer pob math o chwaraeon a gemau. Mae rownderi a phêl foli yn gemau traddodiadol ar gyfer y traeth, ond mae gan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 gymaint yn fwy i’w gynnig i chi! Gall pobl sy’n dwlu ar y traeth roi cynnig ar rygbi traeth, tenis, ffrisbi eithafol a gemau tywodlyd o bêl-droed. Os yw’n well gennych gemau traeth sydd ychydig yn gyflymach eto, rhowch gynnig ar fygi-farcuta a thirsyrffio gyda Gower Kite Riders.


Smyglwyr a Llongddrylliadau

BeachesMae gan ein harfordiroedd chwedlau dirgel i’w hadrodd. Mae olion llongddrylliadau wedi’u gwasgaru ar hyd ein harfordir. Gorwedda rhai’n fythol-gudd yn eu beddau o dan y tonnau, ond gellir gweld olion ysgerbydol Helvetia, a darodd y tir ym 1887, yn ymddangos fel ysbryd o dywod Rhosili. Amser maith yn ôl, roedd llawer o smyglwyr yn gweithredu ar draws Penrhyn Gŵyr, yn cuddio nwyddau gwaharddedig ym maeau cudd y penrhyn (sy’n esbonio sut y cafodd cildraeth diarffordd Brandi ei enw!). Ceir olion y fasnach anghyfreithlon hon ym mhob man, megis Tŷ Halen Porth Einon, a fu ar un adeg yn ganolbwynt i’r diwydiant smyglo lleol.

 


Traethau eco

BeachesRydym yn credu’n gryf mewn gofalu am ein hamgylchedd. Efallai gall hynny esbonio pam mae ein baeau ysblennydd yn arobryn, gan gynnwys Gwobrau Glan môr a Baneri Glas. Ac ar ben hynny, mae hyd at dri chwarter arfordir Gŵyr wedi’i warchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae’r penrhyn yn gartref i eco-fusnesau sy’n arbenigo mewn sgiliau awyr agored ‘gwyrdd’, megis crefft y goedwig, gweithio gyda phren, chwilio am fwyd ac adeiladu waliau. Rydym yn gweithio’n galed i gadw ein tir a’n tywod yn lân a’n moroedd yn disgleirio fel y gall ymwelwyr barhau i’w mwynhau yn eu holl ogoniant. Mae edrych ar ôl pethau yn talu ffordd.

 


Croesewir cŵn

BeachesRydym ni am i bawb fwynhau ein harfordir, gan gynnwys aelodau pedair coes eich teulu! Mae traethau sy’n croesawu cŵn ar draws Bae Abertawe a Gŵyr, lle gall ymwelwyr blewog wlychu eu pawennau. Mae’r rhain yn cynnwys mannau diarffordd fel bae cysurus Mewslade, bwrlwm Bae Oxwich sy’n ffefryn ymhlith teuluoedd, a seren y penrhyn, Bae Rhosili, sydd wedi ennill gwobr traeth addas i gŵn gorau’r DU yn ôl The Times (ymysg rhestr hir o wobrau!).

 


Useful Information