Gwybodaeth i Breswylwyr
Digwyddiad Dydd Sadwrn 28 Mehefin
Rhaglen dreigl cau ffyrdd rhwng 11am a 12pm
- Stryd Rhydychen (o’i chyffordd â Little Gam Street i Whitewalls)
- Whitewalls (ar ei hyd cyfan)#
- Sgŵar y Santes Fair (ar ei hyd cyfan)
Sioe Awyr Cymru - Dydd Gwener 4 - Dydd Sul 6 Gorffennaf
Y digwyddiad am ddim mwyaf yng Nghymru. Dros ddeuddydd, bydd rhai o'r peilotiaid a'r arddangosiadau hedfan gorau yn y byd yn defnyddio amffitheatr naturiol Bae Abertawe i arddangos eu sgiliau. Caiff prom Abertawe ei drawsnewid hefyd gydag arddangosfeydd ar y ddaear, stondinau bwyd a diod, gweithgareddau i'r teulu, reidiau a mwy.
Cam 1
12 ganol dydd, dydd Gwener 4 Gorffennaf – 5am dydd Llun 7 Gorffennaf
- Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau tua’r gorllewin yn unig (o gyffordd West Way i Brynmill Lane)
- Yn ogystal â hyn, bydd DIM mynediad i’r ffordd gerbydau i’r dwyrain o Oystermouth Road a Bond Street, St Helens Road, Beach Street a Gorse Lane yn ystod y cyfnodau hyn.
- Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.
Cam 2
8am dydd Sadwrn 5 Gorffennaf – 5am Dydd Llun 7 Gorffennaf
- Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau i’r ddau gyfeiriad. (o gyffordd West Way i Sketty Lane).
- Bydd dargyfeiriadau ar waith
- Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.
- Bydd mynediad i Stryd Argyle drwy ddilyn dargyfeiriad byr heibio’r Ganolfan Ddinesig.
- Bydd Pantycelyn Road a Nicander Avenue ar gau (rhwng Dyfed Avenue a Townhill Road) rhwng 8am a 7pm ar y ddau ddiwrnod.
- Cynhelir mynediad i Brifysgol Abertawe a Brynmill Lane drwy Sketty Lane
Bydd cyfyngiadau parcio a pharth halio ymaith o 12 ganol dydd dydd Gwener, 4 Gorffennaf tan 5am ddydd Llun, 7 Gorffennaf ar:
- Ddwy ochr Oystermouth Road/Mumbles Road
- Dwy ochr Bryn Road
- Mansel Street tua’r gorllewin
Ni chaiff beicwyr fynd ar hyd Promenâd Abertawe, o’r Ganolfan Ddinesig i Sketty Lane, rhwng 7am dydd Iau, 3 Gorffennaf a 11pm nos Fawrth, 8 Gorffennaf.
Ironman 70.3 Abertawe - Dydd Sul 13 Gorffennaf
Bydd IRONMAN 70.3 Abertawe yn dychwelyd i Abertawe am y 4edd flwyddyn. Mae'n ddigwyddiad arall y llenwir pob lle ar ei gyfer, a disgwylir i dros 2,300 o athletwyr rasio ochr yn ochr â 100 o athletwyr proffesiynol yn y digwyddiad a gaiff ei ffrydio'n fyw. Bydd athletwyr yn nofio pellter o 1.2 filltir yn Noc Tywysog Cymru, yn reidio beic am 56 o filltiroedd o gwmpas Gŵyr ac yn rhedeg 13.1 filltir i lawr Bae Abertawe ac yn ôl cyn gorffen ym mhentref y prif ddigwyddiad ar Lawnt yr Amgueddfa.
Digwyddiad Ffilm - Dydd Sul 20 Gorffenaf
Cau ffyrdd rhwng 8am - 6pm, Burrows Place, Maritime Quarter.
Parc Singleton – Digwyddiadau
Er mwyn atal parcio anystyriol ac felly, gobeithio, leihau’r anghyfleustra i breswylwyr, bydd nifer o ffyrdd ar gau a bydd conau “Dim parcio” yn cael eu gosod ar hyd sawl ffordd breswyl o gwmpas y parc ar ddiwrnod pob digwyddiad. Hoffem eich sicrhau y cedwir mynediad i gerbydau argyfwng bob amser.
Yn ystod y cyfnodau adeiladu a thynnu i lawr, yn ogystal ag yn ystod y digwyddiadau eu hunain, bydd Parc Singleton yn aros ar agor fel arfer, fodd bynnag, bydd mynediad i rai ardaloedd wedi’i gyfyngu ac mae’n bosib y bydd defnyddwyr y parc yn profi cynnydd sylweddol mewn traffig cerbydol. Dilynwch yr arwyddion cyfeiriol a diogelwch fel y bo’n briodol. Fel dewis arall efallai bydd yn fwy cyfleus i breswylwyr ymweld â pharc gwahanol yn yr ardal leol.
Gwybodaeth am Gyngherddau Mawr
Sŵn
Rydym yn gwerthfawrogi bod gan bawb lefelau goddefiant gwahanol o ran cerddoriaeth mewn digwyddiadau. Gellwch fod yn hollol sicr ein bod bob tro’n rheoli lefelau sain y gerddoriaeth yn y cyngherddau hyn yn ofalus. Bydd swyddogion o Dîm Llygredd Sŵn y cyngor yn bresennol yn y rhan fwyaf o’r cyngherddau mawr a byddant yn gweithio’n agos gyda hyrwyddwyr y gyngerdd i sicrhau bod lefelau sain yn aros o fewn y cyfyngiadau y cytunwyd arnynt gynt.
Cynhelir gwiriadau sain cyfyngedig cyn pob cyngerdd (heb fod yn hwyrach na 21:00).
Bydd cyrffyw sŵn ar waith o 23:00 ar ddiwrnod pob digwyddiad.
Bydd hefyd linell gymorth sŵn ddynodedig ar gael drwy gydol y sioe – ffoniwch 07587 931212.
Sbwriel ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Ar gyfer cyngherddau mawr, bydd timau o Wasanaeth Glanhau’r cyngor wrth law i fynd i’r afael ag unrhyw ardaloedd sy’n broblem o ran sbwriel.
Cynhelir gwaith glanhau trylwyr ar ôl pob cyngerdd.
Cysylltwch â ni
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch ni yn special.events@abertawe.gov.uk. (Caiff y cyfeiriad hwn ei fonitro yn ystod oriau swyddfa arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn ystod cyngherddau mawr yn y parc).
Dylid cyfeirio cwestiynau mewn perthynas â gwerthiant tocynnau ac argaeledd at hyrwyddwr perthnasol y gyngerdd. Nid yw staff y cyngor yn gallu cael gafael ar docynnau nac ateb cwestiynau mewn perthynas â thocynnau.
Ar gyfer cyngherddau mwy yn y parc. Bydd Swyddogion Trwyddedu o Gyngor Abertawe’n bresennol i fonitro lefelau sain ac i sicrhau y bodlonir amodau trwyddedu. Bydd ein Llinell Gyswllt i Breswylwyr a Busnesau’n gweithredu – 01792 635428 (2pm i 10pm ar ddiwrnod pob digwyddiad).
Digwyddiadau
Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe!