Pethau i’w Gwneud yn yr Awyr Agored

Rydym yn cynnig mwy na syrffio, padlo bwrdd ar eich traed, arfordiro a chaiacio yn unig ym Mae Abertawe a Gŵyr - gallwch hefyd fynd ar daith ar gwch ar hyd afon Tawe neu hwylio o amgylch yr arfordir a chadw llygad am ddolffiniaid a morloi. Paratowch bicnic ac ewch i un o'n parciau (mae 100 i ddewis ohonynt!) neu ein gwarchodfeydd natur. Mae Bae Abertawe'n lleoliad delfrydol i feicwyr oherwydd ei filltiroedd o lwybrau beicio. Gallwch fwynhau taith hamddenol ar gefn eich beic ar hyd glan y môr, neu feicio i mewn i'r cwm. Bydd plant ac arddegwyr yn mwynhau gêm o golff bach neu daith ar y pedalos ym Mharc Singleton. Mae gweithgareddau difyr cost isel ar gael i'r teulu cyfan hefyd, fel Lido Blackpill neu daith gerdded ar hyd llwybr yr arfordir

Darganfyddwch bethau i'w gwneud yn yr awyr agored

Beicio

Paratowch i fynd ar eich beic. Mae gan Fae Abertawe ddigon o lwybrau beicio heb draffig ac…

  • Rhosili

National Trust Rhosili and South Gower Coast

Mae bae hyfryd Rhosili, gyda'i draeth tywodlyd tair milltir o hyd, yng nghysgod yr Hen Reithordy, bwthyn gwyliau mwyaf poblogaidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gallwch weld olion llong Helvetia, a ddrylliwyd ym 1887, ar y traeth yn ystod llanw isel. O frig Rhos Rhosili, pwynt uchaf penrhyn…

Ymlacio ac adfer