Pethau i'w Gwneud Dan Do

Pethau i’w Gwneud yn yr Awyr Agored

Pethau i'w Gwneud

Does dim llawer o leoedd lle gallwch siopa yn y bore a syrffio yn y prynhawn. Gallwch gael y gorau o ddau fyd ym Mae Abertawe!  
 
Mae bob amser rywbeth i'w wneud ym Mae Abertawe a Gŵyr, yn yr awyr agored a dan do, boed law neu hindda. P'un a ydych am gael diwrnod mas gyda'r teulu ar un o'n traethau arobryn, mynd i heicio ac arsylwi ar fyd natur ar hyd llwybr yr arfordir, cael gwers syrffio, ymweld â chastell (mae gennym 6 ohonyn nhw!), mynd ar drên bach y bae neu drefnu noson ramantus yn y marina, mae gweithgareddau a digwyddiadau sy'n addas i bob oedran a chyllideb. 
Mae llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'w gwneud ym Mae Abertawe felly fyddwch chi byth yn brin o syniadau! 

Archwiliwch bethau i'w gwneud yn Abertawe

Dan sylw yr wythnos hon

Antur llawn chwedlau gyda GWR

Ewch ar daith sydd wedi'i hysbrydoli gan lyfr newydd GWR, The Line to Legend Land, i ddarganfod chwedlau Castell Pennard. Mae'r llyfr hwn yn cynnwys mythau a chwedlau sydd wedi'u llunio gan gannoedd o flynyddoedd o hanes cyfoethog a llên gwerin y tirweddau hyn.

Ydych chi'n chwilio am ragor?

Bywyd Nos

Pan fydd y penwythnos yn cyrraedd ac mae'n amser i ymlacio, Abertawe yw'r lle i fod. Mae gennych ddigon o ddewis, ni waeth a ydych chi'n mynd am ddiod dawel gyda ffrindiau, yn gwrando ar gerddoriaeth fyw neu'n…

Hanes a Threftadaeth

Mae lleoliadau Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn llawn hanes, o gestyll hynafol, môr-ladron a smyglwyr i'w hanes diwydiannol cyfoethog gyda gwaith copr Abertawe a threftadaeth ddiwylliannol eiconau llenyddol fel…

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Rhosili

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am fwy na 26 milltir o arfordir poblogaidd penrhyn Gŵyr. Mae hyn yn cynnwys rhan helaeth o’r ardal o amgylch Rhosili, y traeth arobryn, Pen Pyrod a Mynydd Rhosili.