fbpx
Cymerwch gip ar beth sy'n digwydd ym Mae Abertawe...
Rhagor o wybodaeth...

4 – 6 Hydref

Bydd pum lleoliad diwylliannol yn Abertawe’n croesawu ymwelwyr a phobl leol i archwilio celfyddydau gweledol a rhyngweithiol.

Pethau i’w gwneud yn Oriel Mission

Ydych chi’n chwilio am bethau creadigol i’w gwneud yn Abertawe? Rhowch gynnig ar weithgareddau cerameg yn Oriel Mission. Mae Oriel Mission yn eich gwahodd i ddathlu popeth sy’n ymwneud ag adrodd straeon drwy weithgareddau sy’n ymwneud â cherameg a darlunio.

Bydd Oriel Mission yn cyflwyno sesiynau gyda’r Artist Preswyl Lowri Davies, ceramegydd enwog o Gymru, lle gall ymwelwyr gael cipolwg ar ddarnau dethol sy’n cael eu datblygu ar gyfer ei phrosiect Merched ar Lestri, sy’n dathlu menywod pwysig o Gymru.

Mae gwaith cerameg Lowri wedi’i ysbrydoli gan ddreseri Cymreig, casgliadau o gofroddion, a darluniau lliwgar gan ddefnyddio dyfrlliwiau ac inc.

Bydd Lowri hefyd yn arwain gweithdai cerameg dan arweiniad, gyda sesiynau sy’n addas i deuluoedd.

Bydd Micki Schloessingk o oriel Bridge Pottery yng Ngŵyr hefyd yn arwain gweithdy i oedolion a fydd yn canolbwyntio ar dechnegau adeiladu â llaw, a bydd Katherine Silvera-Sunley yn cynnal gweithdy i oedolion a fydd yn archwilio cerameg fel rhywbeth y gellir ei gwisgo. Does dim angen profiad, a chaiff y rheini sy’n dod i’r sesiynau eu harwain drwy’r broses mewn amgylchedd difyr a hamddenol.

Ynghyd â gwaith Lowri bydd eitemau a grëwyd gan aelodau’r Sefydliad Pobl Tsieineaidd yng Nghymru, sydd wedi gweithio gyda Lowri i ymchwilio i’r cysylltiadau treftadaeth ddiwylliannol rhwng y delweddau Cymreig sy’n hudo Lowri a Blwyddyn y Ddraig yn y calendr Tsieineaidd, hefyd yn cael eu harddangos.

Dyddiad: 4-6 Hydref

Gweithdai a digwyddiadau:

  • Lowri Davies: Llinynnau – 4 Hydref, 5pm -7pm
  • Sesiwn addurno teils i deuluoedd gyda Lowri Davies – 5 Hydref, 10.30am – 12pm [GWERTHU ALLAN!]
  • Sesiwn printio gyda blociau gyda Lowri Davies – 5 Hydref, 2pm – 3.30pm [GWERTHU ALLAN!]
  • Sesiwn cerameg i oedolion gyda Micki Schloessingk – 5 Hydref, 10am – 12.30pm [GWERTHU ALLAN!]
  • Sesiwn addurno teils i deuluoedd gyda Lowri Davies – 6 Hydref, 10.30am – 12pm [GWERTHU ALLAN!]
  • Sesiwn printio gyda blociau i deuluoedd gyda Lowri Davies – 6 Hydref, 2pm – 3.30pm
  • Sesiwn creu modrwyon i oedolion gyda Katherine Silvera-Sunley – 6 Hydref, 11am – 2.30pm. [GWERTHU ALLAN!]

Beth sy’n digwydd yn Theatr Volcano

Os ydych yn dwlu ar gelf ryngweithiol ac ymdrochol, mae’r arddangosfa Ffiesta Am Byth yn Theatr Volcano yn berffaith i chi.

Bydd y theatr yn trawsnewid ei horielau ar y Stryd Fawr yn fan ffiesta dan do, gan greu llwybr celf a fydd yn cynnwys coctels, piñatas, celf a chrefft a ffotograffiaeth. Gallwch ddysgu’r symudiadau sylfaenol ar gyfer tango’r Ariannin hyd yn oed. Bydd y ffiesta’n cynnwys gweithgareddau ac arddangosfeydd rhyngweithiol sy’n addas i deuluoedd, gan gymryd ysbrydoliaeth gan artistiaid Lladin Americanaidd a strydluniau a grëwyd gan Wilfredo Davila, Klaes Oldenburg, a Hieronymus Bosch.

Bydd ffotograffiaeth hefyd ddydd Sadwrn 5 Hydref, lle bydd portreadau ansawdd uchel o ymwelwyr yn cael eu creu fel rhan o’r profiad.

Digwyddiad na ddylid ei golli ar gyfer y rheini sy’n chwilio am adloniant a digwyddiadau sy’n addas i deuluoedd yn Abertawe, a’r rheini sy’n dwlu ar gelf Lladin.

Dyddiad: 4-6 Hydref

Gweithdai a digwyddiadau:

  • Bar Ffiesta – 4 a 5 Hydref, 6pm-11pm
  • Caffi Ffiesta – 5 Hydref, 11am – 11pm a 6 Hydref, 10am – 1pm
  • Celf a chrefft Lladin Americanaidd – 5 Hydref, 11am – 1pm a 2pm – 4pm
  • Portreadau – 5 Hydref, 11am – 1pm a 2pm – 4pm
  • Tango yr Ariannin – 5 Hydref, i’w gadarnhau
  • Gitâr fflamenco – 5 Hydref, 1pm – 4pm
  • Piñata – 5 Hydref, 4.30pm – 5pm

 

Mwy o wybodaeth


Pethau i’w gwneud yn Oriel Gelf Glynn Vivian

Yn ystod Penwythnos Celfyddydau Abertawe, bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn arddangos ei harddangosfa newydd gan y ffotograffydd sglefrfyrddio clodfawr, Skin Phillips, artist a ffotograffydd rhyngwladol sy’n dod o Abertawe’n wreiddiol.

Bydd arddangosfa Phillips yn cynnwys cyfres o ffotograffau sy’n adlewyrchu’r byd sglefrfyrddio yn y ddinas. Mae’r comisiwn newydd yn rhoi sylw arbennig i fywiogrwydd ac amrywiaeth byd sglefrfyrddio Abertawe, gan bwysleisio arwyddocâd diwylliannol y gamp ar gyfer cymunedau’r ddinas.

Caiff y ffotograffau newydd eu harddangos ochr yn ochr â ffotograffiaeth ôl-weithredol Phillips o gymunedau sglefrfyrddio eiconig yn Efrog Newydd, Califfornia ac Abertawe, sy’n rhychwantu’r 40 mlynedd diwethaf ac yn cyfleu adrenalin ac artistiaeth sglefrfyrddio drwy’r cenedlaethau. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys rhaglen wedi’i churadu o ffilmiau sglefrfyrddio.

Bydd arddangosfa Out of This World Heather Phillipson, a gefnogir gan Gronfa Waddol ‘IWM 14-18 NOW’, hefyd ar gael i ymweld â hi yn ystod y Penwythnos Celfyddydau.

Os hoffech gael profiad ymdrochol, mae’r Glynn Vivian yn arddangos darn o gelf ryngweithiol gan yr artistiaid o Abertawe, Jason & Becky: Eavesdropper.

Crëwyd Eavesdropper mewn ymateb i arddangosfa Heather Phillipson, Out of this World, sef comisiwn mewn partneriaeth â Chronfa Waddol ‘IWM 14-18 NOW’, yn ogystal ag ymchwil i Margaret Watts Hughes yn dyfeisio’r eidoffôn ym 1887 – dyfais a grëwyd i ddelweddu’r llais dynol.

Gan archwilio syniadau o wrthdaro a chyfathrebu drwy ryngweithio, sain ac adnoddau gweledol, bydd Eavesdropper yn cael ei gosod ar ddau safle – yng nghanol dinas Abertawe ac yn Oriel Gelf Glynn Vivian. Bydd ymwelwyr yn gallu ymgymryd â rôl weithredol yn y gelf drwy ddelweddu sain.

Dyddiad: 4-6 Hydref

Gweithdai a digwyddiadau:


Profiadau yn Galerie Simpson

Ydych chi wedi clywed am Noson y Trionglau enwog Abertawe? Os ydych yn dwlu ar ffuglen wyddonol, peidiwch â cholli’r profiad hwn yn Galerie Simpson.

  1. Mynydd Cilfái Abertawe.

Yn ystod Noson y Trionglau Abertawe, sydd bellach yn adnabyddus yn llên gwerin Abertawe, gwelodd preswylwyr Abertawe UFO siâp triongl yn hedfan uwchben y ddinas.

Yn ystod perfformiad a sgriniad rhyngweithiol ac ymdrochol, bydd yr artist lleol Kathryn Ashill yn mynd â chi ar daith gosmig sy’n dathlu’r digwyddiad unigryw hwn mewn hanes lleol. Bydd yn archwilio pwy oedd ein hymwelwyr allfydol posib, ac yn archwilio’r golygfeydd am estroniaid sy’n boblogaidd mewn diwylliant cyhoeddus a phoblogaidd. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformwyr lleol ac artistiaid Galerie Simpson.

Dewch i wylio perfformiad unigryw sy’n ymchwilio i bethau arallfydol a chysylltiad rhwng galaethau.

Yn ychwanegol, yn yr oriel drwy gydol y penwythnos bydd y triongl yn symbol amlwg sy’n cael ei gynnwys mewn gwisgoedd, lluniau a setiau. Bydd croeso i ymwelwyr gymryd rhan mewn celf berfformio, a gallant ddefnyddio mygydau perfformio unigryw Kathryn Ashill.

Gwybodaeth am yr artist: Mae perfformiadau, fideos a gosodiadau Kathryn Ashill yn cyflwyno profiadau personol a hunaniaeth dosbarth gweithiol, ac yn archwilio’r gwrthdrawiad diwylliannol rhwng cefndir ac arferion artistig Ashill. Roedd Ashill yn chwilio am y natur theatraidd mewn bywyd bob dydd gan rannu darnau o hunangofiant, arsylwadau ar bobl, hanes a safle.

Dyddiad: 4-6 Hydref

Amserau perfformiadau ar gyfer Night of the Triangles gan Kathryn Ashill:

Sylwer bod lle i 35 person yn unig ar gyfer pob perfformiad.

  • 4 Hydref – 6pm
  • 5 Hydref – 12pm, 5pm
  • 6 Hydref – 12pm

Tocynnau i’r arddangosfa


Pethau i’w gwneud yn Oriel Elysium

Os ydych yn hoff iawn o ffotograffiaeth, peidiwch â cholli arddangosfeydd newydd Elysium, sy’n cael eu lansio mewn pryd ar gyfer Penwythnos Celfyddydau Abertawe.

Mae arddangosfa Elysium Abertawe, sydd hefyd yn rhan o Ŵyl Diffusion, yn agor ar 5 Hydref ac yn rhoi sylw i waith dau artist benywaidd/anneuaidd o’r cydweithfa Foto Féminas, sy’n ceisio gwella amlygrwydd ffotograffwyr benywaidd/anneuaidd Lladin Americanaidd a Charibïaidd. Bydd yr artist o Frasil Luiza Possama Cons, a’r artistiaid o’r Ariannin Julietta Anaud a Lorenna Marchetti yn arddangos eu ffotograffiaeth a’u gwaith celf.

Ar ben hynny bydd yr oriel hefyd yn arddangos Rough Edges, arddangosfa newydd gan y ffotograffydd a’r artist lleol Kaylee Francis. Mae Rough Edges yn arddangosfa ddogfennol barhaus o ystad cyngor yn Abertawe.

“Cefais fy ngeni a fy magu yn yr ardal ac mae gen i gysylltiadau cryf a pherthynas â’r gymuned o hyd. Roedd gennyf awydd i dynnu lluniau o’r bobl a’r lleoedd rwy’n eu hadnabod yma mewn ffordd sy’n cyfleu fy mhrofiad i, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn cynnig naratif gwrthwynebol i’r cynrychiolaethau negyddol yn y cyfryngau sy’n nodweddiadol o gymunedau tebyg.”

Fel ffotograffydd dogfennol, mae gan Francis ddiddordeb mewn archwilio materion sy’n ymwneud â chynrychioliad a chamliwiad cymunedau economaidd-gymdeithasol is. Mae ei gwaith yn ystyried y posibiliadau o ddefnyddio ffotograffiaeth a gweithredaeth i greu effaith a newid cymdeithasol.

I’r rheini sy’n gobeithio rhoi cynnig ar dechnegau ffotograffiaeth, bydd ystafell dywyll Elysiym hefyd ar agor i’r cyhoedd dros y penwythnos. Bydd yr artist lleol Daniel Staveley yn cynnal cyfres o weithdai datblygu ffotograffau gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy.

Mae’r artistiaid Lucy Donald, Jenny Chisolm a Karen Hopkins yn gwahodd cyfranogwyr i gymryd rhan mewn penwythnos o baentio gyda’r clwb paentio. Mae’r gweithdy hwn yn cynnig cyfle i unigolion greu eu campweithiau wedi’u fframio eu hunain, a fydd yn cael eu harddangos yn y man arddangos ‘Artistiaid Ydym Oll’. Mae’r digwyddiad ar agor i artistiaid o bob oedran a gallu, ond gofynnir i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Dyddiad: 5-6 Hydref

Gweithdai:

  • Gweithdy a thrafodaeth ffotograffiaeth greadigol gyda Julietta Anaut, Luiza Possamo Kons a Lorenna Marchetti – 5 Hydref, 12pm – 4pm.
  • Clwb paentio – 5 Hydref, 12pm – 4pm
  • Clwb paentio – 6 Hydref, 12pm – 4pm
  • Gweithdy Creu Collage – 6 Hydref , 2pm – 4pm

Gweithdai ffotograffiaeth gynaliadwy yn yr ystafell dywyll:

  • 5 Hydref – 11am, 1pm a 3pm
  • 6 Hydref – 11am, 1pm a 3pm

Cefnogir Artistiaid Ydym Oll gan brosiect Angori Twristiaeth Ddiwylliannol Cyngor Abertawe ac fe’i hariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Rhaglen

Roedd yr holl wybodaeth yn gywir ar yr adeg cyhoeddi. Gwiriwch cyn archebu neu deithio.

Dydd Gwener 4 Hydref

Oriel Elysium

GS Artists

Oriel Gelf Glynn Vivian

Oriel Mission

Theatr Volcano

Dydd Sadwrn 5 Hydref

Oriel Elysium

GS Artists

Oriel Gelf Glynn Vivian

Exist Skatepark

Oriel Mission

  • Sesiynau gwneud gyda’n gilydd ar gyfer teuluoedd gyda Lowri Davies – addurno teils, 10.30am – 12pm GWERTHU ALLAN
  • Sesiynau gwneud gyda’n gilydd ar gyfer teuluoedd gyda Lowri Davies – printio bloc, 2pm – 3.30pm GWERTHU ALLAN
  • Chwarae â chlai i oedolion gyda Micki Schloessingk ac Eve Gnoyke  , 10am – 12.30pm GWERTHU ALLAN

Theatr Volcano

Dydd Sul 6 Hydref

Oriel Elysium

GS Artists

  • Noson y Trionglau , Arddangosfa gosodwaith ffilm, 12pm – 5pm

Oriel Gelf Glynn Vivian

Oriel Mission

Theatr Volcano