fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Parcio a Theithio

Paratowch i weld bandiau gorymdeithio, fflotiau hudol, cymeriadau o ffilmiau Nadoligaidd, offer chwyddadwy ar thema’r ŵyl ac wrth gwrs, Siôn Corn a’i sled, wrth iddynt oll ymddangos yn nigwyddiad Gorymdaith a Chynnau Goleuadau’r Nadolig eleni yn Abertawe!

Bydd gorymdaith eleni’n dechrau tua 5.00pm a disgwylir iddi orffen tua 6.00pm ar Ffordd y Brenin.

Sylwer y disgwylir i ganol y ddinas fod yn brysur iawn yn ystod y prynhawn a thrwy gydol y digwyddiad – sicrhewch eich bod yn cynllunio’ch trefniadau teithio yn briodol ac yn caniatáu digon o amser i gyrraedd er mwyn gweld llwybr yr orymdaith!

Parcio

Mae gan ganol y ddinas nifer o feysydd parcio’r cyngor  – gallwch weld rhestr lawn o’ rhain, gan gynnwys eu lleoliadau a’u codau post, yn abertawe.gov.uk/meysyddparcio.

Swyler: Ni fydd maes parcio East Burrows ar gael ar ddiwrnod y digwyddiad. Gallwch barcio yn y meysydd parcio canlynol, ond cânt eu heffeithio gan y trefniadau cau ffyrdd ar gyfer y digwyddiad rhwng 4pm ac oddeutu 6.30pm;

  • Maes parcio Dwyrain Stryd y Parc SA1 3DJ
  • Maes Parcio Gorllewin Stryd y Parc SA1 3DF
  • Maes Parcio Stryd Pell SA1 3ES
  • Maes Parcio Stryd Rhydychen SA1 3AZ
  • Maes Parcio Maes Caerwrangon SA1 1HY
  • Maes Parcio Quadrant (SA1 3QR)
  • Maes Parcio Bae Copr Bay De (Arena) (SA1 3BX)
  • Maes Parcio Lôn Northampton (SA1 4EW)

Parcio a Theithio

Bydd 2 safle parcio a theithio ar agor ar gyfer Gorymdaith y Nadolig: Fabian Way a Glandŵr. 

Bydd bysus yn gadael bob 15 munud o 2pm tan 5.15pm o safleoedd parcio a theithio Glandŵr a Fabian Way. Ar ôl yr orymdaith, byddant yn rhedeg o 6pm. 

Sylwer y bydd traffig yn brysur yng nghanol y ddinas yn yr amser sy’n arwain at y digwyddiad – os ydych yn bwriadu defnyddio safleoedd parcio a theithio, caniatewch ddigon o amser i deithio o’r safle parcio a theithio i ganol y ddinas ei hun. 

Parcio a Theithio Ffordd Fabian 

  • Cost fesul cerbyd: £1 
  • Côd Post – SA1 8LD 
  • Ar agor rhwng 2pm ac 8pm 
  • Tocynnau ar gael o beiriant tocynnau parcio a theithio Ffordd Fabian 
  • Man gollwng a chodi – Gorsaf Fysus y Cwadrant 

Safle Parcio a Theithio Glandŵr 

  • Cost fesul cerbyd: £1 
  • Côd post – SA2 0AU 
  • Ar agor rhwng 2pm ac 8pm 
  • Tocynnau ar gael gan yr arianwyr yn swyddfa docynnau’r Rec 
  • Man gollwng a chodi – Gorsaf Drenau Abertawe 

 

 

 

Cau ffyrdd

Er mwyn cynnal yr orymdaith yn ddiogel, bydd nifer o ffyrdd ar gau ar noson y digwyddiad. Lle y bo’n bosib, cânt eu cau ar raglen dreigl. Bydd mynediad i wasanaethau brys ar bob adeg

Bydd llwybr dynodedig Gorymdaith y Nadolig fel a ganlyn;  Victoria Road, Princess Way, Caer Street, Castle Bailey Street, Castle Street, y Stryd Fawr, Orchard Street, Ffordd y Brenin. Felly, bydd y trefniadau cau ffyrdd, llwybrau dargyfeirio a chyfyngiadau parcio ar waith.

Cau ffyrdd

  • East Burrows Road a Somerset Place – 2.00pm – 8.00pm*
  • Belle Vue Way – 12.00pm -8.00pm*

Rhaglen Dreigl o Gau Ffyrdd

  • Adelaide Street, Cambrian Place, Victoria Road, Princess Way, Oystermouth Road, Caer Street, Castle Bailey Street, Castle Street, y Stryd Fawr, Alexandra Road, College Street, Orchard Street, Ffordd y Brenin, Dillwyn Street, Ivy Place, Christina Street a Wellington Street – 4pm – 8pm*

*Sylwer – brasamcan o amserau yw’r rhain


Cyfyngiadau Parcio

Gallwch deithio ar y bws am ddim gyda chynnig Nadoligaidd – wedi’u hymestyn tan 9pm ar gyfer yr orymdaith yn unig! Bysus Am Ddim Abertawe! Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein.

Er diogelwch, diogeledd ac i gynorthwyo symudiad traffig yn yr ardal, mae’n ofynnol i ni gadw rhai ffyrdd yn rhydd o gerbydau wedi’u parcio ac felly bydd cyfyngiadau parcio ar y ffyrdd hyn, a chaiff cerbydau sydd wedi parcio yno’u halio ymaith;

  • Adelaide Street, East Burrows Road, Somerset Place, Princess Way, Caer Street, Castle Bailey Street, Castle Street, y Stryd Fawr, Alexandra Road, College Street, Orchard Street, Ffordd y Brenin, Dillwyn Street, Wellington Street – 2pm – 8pm

 

Cyrraedd ar fws

I weld yr amserlenni bysus llawn, ewch i www.firstgroup.com/south-west-wales
www.adventuretravel.cymru/bus-services
www.southwalestransport.com/bus-routes-and-timetables
www.dansa.org.uk/route-timetables/ i gael help i drefnu’ch taith.

Sylwer: Ni fydd y safleoedd bws ar hyd llwybr yr orymdaith yn weithredol rhwng 4.00pm a 6.30pm, felly defnyddiwch Gorsaf Fysus y Cwadrant.


Rhannu Car

Os ydych yn teithio mewn car, rhannwch gar os oes modd. Bydd rhannu car yn eich helpu i arbed arian drwy rannu’r costau ac yn lleihau faint o draffig sydd ar y ffordd, gan helpu’r amgylchedd.