Bydd bandiau gorymdeithio, fflotiau hudol, cymeriadau ffilmiau’r Nadolig, offer chwyddadwy Nadoligaidd a Siôn Corn a’i sled yn ymddangos yng Ngorymdaith y Nadolig Abertawe eleni.
Bydd goleuadau disglair, peiriannau eira a thân gwyllt, felly os nad oeddech yn teimlo hwyl yr ŵyl cyn i’r orymdaith ddechrau, byddwch yn siŵr o’i deimlo erbyn y diwedd!
Bydd Belle brydferth a’r Bwystfil, ceirw wedi’u goleuo ac adar enfawr hudol Gwledd y Gaeaf yn ymuno â chast o gannoedd ar gyfer Gorymdaith y Nadolig eleni yng nghanol y ddinas.
Bydd cerbyd tywysoges, cymeriadau o’r sioe gerdd boblogaidd, Frozen, ynghyd â chast o gannoedd o wirfoddolwyr o’r gymuned i’w gweld ar strydoedd canol y ddinas wrth i’r paratoadau gychwyn ar gyfer cyfnod y Nadolig.
Dewch i weld eich hoff dywysogesau ac archarwyr, ac i gael eich syfrdanu gan wisgoedd ac arddangosfeydd swynol wedi’u goleuo. Bydd gorymdaith eleni’n llawn hwyl yr ŵyl gan fod cannoedd o bobl ifanc o grwpiau cymunedol y ddinas wedi achub ar y cyfle i fod yn rhan ohoni.
Bydd hen ffefrynnau’n dychwelyd a rhai newydd yn ymuno, yn ogystal â goleuadau, cerddoriaeth, peiriannau eira, tân gwyllt a Siôn Corn ei hun! Paratowch i groesawu tymor yr ŵyl mewn steil!
Bydd yr orymdaith yn dechrau yng Nghanolfan Dylan Thomas am 5pm ac yn mynd i fyny Stryd y Gwynt tuag at Sgwâr y Castell. Yma, bydd sled Siôn Corn yn stopio gyntaf am 5.15pm* er mwyn cynnau goleuadau’r Nadolig a chwifio ar y plant bach a mawr! Yna bydd yr orymdaith yn parhau i fyny’r Stryd Fawr, i lawr Stryd y Berllan ac i Ffordd y Brenin, lle bydd Siôn Corn yn stopio am yr eildro am 5.35pm* i gynnau gweddill goleuadau canol y ddinas cyn parhau i lawr Ffordd y Brenin.
*Sylwer, amcangyfrifion yw amseroedd cynnau’r goleuadau.
Ac wrth i chi aros i’r orymdaith gyrraedd, gallwch fwynhau cerddoriaeth ac adloniant gan gorau a chantorion lleol mewn mannau perfformio yn Sgwâr y Castell a’r tu allan i Westy’r Dragon, gyda Rock Choir, Dancerama, Jermin Productions, Nataya a Victorian Carollers.
Joining the parade will be the return of Spark! A street theatre show from 2017 which will be combining a high-impact drumming routine with kaleidoscopic lighting design. There’ll be giant light-up reindeers that seem to float in the air and magical Winter Wonderland Birds, whose moods change with the lights and music.
Bydd pobl ifanc o Abertawe’n rhan o Orymdaith y Nadolig a Chynnau Goleuadau’r Nadolig eleni.
Mae grwpiau drama a dawns lleol ymhlith y rheini sydd wedi derbyn gwahoddiad gan Gyngor Abertawe i wisgo i fyny a diddanu miloedd o wylwyr drwy fod yn rhan o’r orymdaith.