fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Bydd angen y pethau hyn arnoch chi

  • Gallwch naill ai lawrlwytho ac argraffu ein templed isod neu gallwch dynnu llun o’ch arth wen eich hun ar bapur gwyn neu ar gardbord gwyn i gael rhywbeth mwy cadarn.
  • Pin neu bensil os ydych yn tynnu llun eich arth wen eich hun
  • Siswrn
  • Unrhyw beth yr hoffech chi ei ddefnyddio i addurno’ch arth – efallai yr hoffech chi roi llygaid gwgli a thrwyn pom pom iddi!

 

Lawrlwythwch y templed

Cam 1

Lawrlwythwch ac argraffwch y templed neu defnyddiwch ein harth wen ni fel arweiniad a thynnwch lun arth eich hun.

 

 

 

Cam 2

Torrwch y corff, y pen a’r clustiau allan a’u gludo yn eu lle.

 

 

Cam 3

Torrwch y ddau dwll ar waelod corff yr arth wen allan yn ofalus – bydd eich bysedd yn mynd drwy’r rhain.

Efallai bydd angen help oedolyn arnoch chi gan fod y cam hwn yn fwy anodd!

 

Cam 4

Efallai yr hoffech chi addurno’ch arth wen gyda darnau disglair, neu roi llygaid gwgli a thrwyn pom pom iddi!