Casglwch eich moch coed at ei gilydd a gwnewch yn siŵr nad oes llwch/baw arnynt.
Paentiwch bennau eich moch coed. Gallwch eu paentio’n un lliw neu’n lliwiau gwahanol. Rydym yn hoffi bod y paent gwyn yn edrych fel eira!
Gadewch i’ch moch coed sychu.
I wneud moch coed pom-pom diddorol, trowch eich moch coed wyneb i waered a gludwch eich pom-poms bach ar ben y blaenau.
Gadewch i’ch moch coed sychu.
Pan fydd eich moch coed Nadoligaidd wedi sychu, gallwch naill ai eu harddangos mewn powlen Nadoligaidd.
Neu ludo dolen o linyn neu gortyn i’w troi’n addurniadau y gellir eu hongian ar y goeden!
Rhagor o syniadau gweithgareddau
Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Abertawe’r Nadolig hwn