Torrwch eich hosan wen uwch ben y sawdl.
Llenwch eich hosan wen â reis, gwnewch gwlwm ar y top a thorrwch unrhyw hosan dros ben i ffwrdd.
Clymwch naill ai fand elastig neu ddarn o edau o gwmpas eich hosan sydd wedi’i llenwi i greu siâp pen i’ch dyn eira.
Torrwch ben y bysedd traed oddi ar yr hosan Nadoligaidd, tua hanner ffordd rhwng y sawdl a’r bysedd traed.
Rhowch honno ar ben y dyn eira i greu het neis. Gallwch rolio’r gwaelod i fyny a chlymu naill ai band elastig neu ddarn o edau o gwmpas y pen i greu pelen.
Addurnwch gorff eich dyn eira gyda botymau a gludwch ddarnau o lanhawyr pibell neu defnyddiwch binnau ffelt i greu wyneb.
Torrwch stribed tenau o’ch hosan Nadoligaidd a’i glymu o gwmpas y gwddf i roi sgarff i’ch dyn eira sy’n cydfynd â’i het.
Gallwch arbrofi gyda hosanau a botymau gwahanol i greu teulu o ddynion eira!
Rhagor o syniadau gweithgareddau
Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Abertawe’r Nadolig hwn