Bob tro rydym yn anfon cerdyn Nadolig, yn hongian pêl coeden Nadolig ar y goeden neu hyd yn oed yn tynnu cracyr y Nadolig, rydym yn arfer traddodiadau Nadoligaidd rydym wedi’u hetifeddu o oes Fictoria.
Ar ddechrau oes Fictoria, roedd dathliadau’r ŵyl yn canolbwyntio mwy ar Ddydd Calan pan byddem yn rhoi ac yn derbyn anrhegion yn draddodiadol, a Nos Ystwyll, a oedd yn nodi diwedd dathliadau’r Nadolig. Fodd bynnag, oherwydd bod diwydiannu cynyddol a phatrymau gwaith newidiol wedi lleihau cyfnod gwyliau’r Nadolig, penderfynwyd mai dydd Nadolig fyddai’r prif ddiwrnod dathlu.
Mae ein traddodiad Nadoligaidd o fynd o ddrws i ddrws i ganu carolau yn deillio o ganu gwasel. Gallwn ddychmygu ein cyndeidiau yn Abertawe ganoloesol, yn dihuno’r coed afalau ym mis Ionawr trwy ganu caneuon, yfed seidr poeth o’r ffiol wasael ac arllwys diferyn ohono o gwmpas gwreiddiau’r coed i gadw eneidiau drwg i ffwrdd a sicrhau cynhaeaf llwyddiannus. Hen leoliad y Porth Wasel, o fewn waliau’r ddinas, yw’r ardal sydd o gwmpas siop Iceland heddiw.
Wrth i fwy ohonom ddechrau byw mewn trefi, newidiodd rai o’n traddodiadau, gan gynnwys y wasel. Yn y pen draw, byddai ein cyndeidiau’n rhoi gwin poeth mewn powlen ac yn mynd o dŷ i dŷ i ganu carolau. Byddant yn rhoi’r bowlen i aelodau’r aelwyd er mwyn iddynt yfed diferyn ohoni am lwc cyn ychwanegu rhagor o win ati i ddod â llawenydd.
Yn ne Cymru, byddai’r Fari Lwyd draddodiadol hefyd yn teithio o gwmpas gyda’r llestr gwasael. Penglog ceffyl yw’r Fari Lwyd, sydd wedi’i gorchuddio â chynfas wen a’i haddurno â rhubanau lliwgar, a byddai dyn yn ei chario o dŷ i dŷ ac yn symud yr ên er mwyn gwneud i’r ceg glecian. Byddai’r Fari Lwyd a’i dilynwyr yn aros y tu allan i’r drws yn adrodd cerddi a chanu caneuon nes bod aelodau’r aelwyd yn eu gwahodd i mewn i’r tŷ.
Gwnaed y llestr gwasael yn y llun hwn, a wnaed o briddwaith, yng Nghrochendy Ewenni ym Morgannwg. Fe’i gwnaed o glai coch â gwydredd melyn dros glai gwlyb gwyn. Cafodd llestri gwasael eu haddurno yn yr un ffordd bob tro ac mae gan y llestr hwn bron bob nodwedd draddodiadol ddisgwyliedig. Mae’r dyn ar y caead yn eistedd wrth estyn ei freichiau ac mae’n gwisgo het drichorn. Yn wreiddiol, byddai’n eistedd ar ben casgen â gwydraid yn ei law. Mae addurniadau eraill ar y caead yn cynnwys pedair dolen, llwynog, cŵn, adar ac ysgubau ŷd. Ar ben hynny, mae ceiliog. Roedd gan y corff ddeunaw dolen ac fe’i haddurnir ag addurn ‘sgraffito’ (wedi’i grafu). Mae dyluniadau’n cynnwys cwmpawd, planhigion a hopys o bosib. Mae’r engrafiad yn dweud: “Margt Thomas / Decr 9th 1841 / Bridgend”.
Fel y gwelwn, daeth Dydd Nadolig yn ganolbwynt ein dathliadau Nadoligaidd oherwydd pobl oes Fictoria. Roeddent hefyd wedi ychwanegu rhai traddodiadau eraill rydym yn eu harfer heddiw.
Beth am roi cynnig ar rai o’r gweithgareddau hyn i ailgreu Nadolig Fictoraidd yn eich cartref chi?