fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Nadolig Llawen oddi wrth Ganolfan Dylan Thomas!

‘Neidio i mewn i’r tŷ, yn llwythog o beli eira’

Pan mae Dylan yn cofio Nadolig ei blentyndod, mae’n dychmygu Abertawe dan fantell o eira a digonedd o frwydrau peli eira gyda’i ffrindiau. Yn ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’, mae’n ysgrifennu’r canlynol:

‘I can never remember whether it snowed for six days and six nights when I was twelve, or whether it snowed for twelve days and twelve nights when I was six.’

Gallwch greu Dylan bach eich hun, gyda phêl eira yn ei law, i’w hongian oddi ar eich coeden Nadolig. Gyda’n templed, gallwch hefyd greu garlant Dylan i hongion yn eich cartref!

I greu addurn ar gyfer eich coeden, bydd angen cerdyn, deunyddiau lliwio a llinyn arnoch.

Cam 1

Gallwch argraffu templed Dylan neu dynnu eich llun eich hun!

Efallai yr hoffech ddefnyddio cerdyn, ond gallech hefyd ddefnyddio papur a’i lynu i gerdyn a dorrwyd o flwch grawnfwyd.

Lawrlwythwch y templed

Cam 2

Lliwiwch eich templed neu’ch llun.

Ar gyfer pob addurn bydd angen i chi dorri dau Dylan sy’n adlewyrchiad o’i gilydd, fel a ddarperir ar y dudalen i’w hargraffu.

 

 

Cam 3

Nesaf, torrwch ddarn bach o gortyn, oddeutu 10cm o hyd. Gallech hefyd ddefnyddio band rwber neu ddolen bag plastig.

Trowch un Dylan drosodd fel bod yr ochr wag yn eich wynebu chi, crëwch ddolen gyda’r cortyn a defnyddiwch dâp i ludo dau ben y cortyn i ochr wag Dylan (gweler y llun).

 

 

Cam 4

Rhowch lud o amgylch y cortyn a thros gefn y Dylan hwn, ac yna rhowch ei adlewyrchiad ar ei ben. Bydd hyn yn gwneud i’r cortyn aros yn ei le a bydd hefyd yn golygu bod delwedd ar y naill ochr pan fydd eich addurn yn troi.

 

 

Cam 5

Unwaith y bydd y glud yn sych, addurnwch eich Dylan mewn unrhyw ffordd y dymunwch.

Rydym wedi rhoi pom pom ar y belen eira i greu effaith.

 

 

Cam 6

Hongiwch eich Dylan o’ch coeden yn barod ar gyfer eich Nadolig yng Nghymru!

 

 

 

 

Creu eich garlant Dylan eich hun

  1. Argraffwch nifer o gopïau o dempled Dylan. Bydd y garlant yn gweithio’n dda gyda cherdyn neu bapur.
  2. Lliwiwch gynifer o luniau Dylan ag y medrwch!
  3. Torrwch allan eich holl luniau o Dylan – gallwch ddefnyddio’r holl adlewyrchiadau o Dylan oherwydd pan fyddwch yn eu hongian bydd yn ymddangos eu bod yn taflu peli eira at ei gilydd!
  4. Datodwch ddarn o gortyn a’i dorri, tua metr o hyd. Gallwch ychwanegu rhagor trwy glymu cortyn ychwanegol ar y diwedd.
  5. Mae nifer o ffyrdd y gallwch atodi eich lluniau o Dylan i’r cortyn. Y ffordd fwyaf effeithiol yw eu styffylu yn y cap. Os nad oes styffylwr gennych, gallwch roi tâp ar y cap neu gallwch wneud twll yn y cap yn ofalus a rhoi’r cortyn trwyddo. Efallai bydd angen gofyn am gymorth oedolyn gyda’r rhan hon. Gwasgarwch y lluniau o Dylan, gan adael o leiaf 4cm rhyngddynt.
  6. Gallwch ychwanegu addurniadau ychwanegol, megis plu eira neu pom poms os hoffech.
  7. Ar ôl i chi atodi’r holl luniau o Dylan, mae angen dod o hyd i rywle i’w hongian – gobeithio na fyddant yn taflu unrhyw eira atoch!

Stori Hudol Dylan, ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’, yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer cyfres o weithgareddau i chi eu mwynhau yng Nghanolfan Dylan Thomas neu gartref.   

Galwch heibio’r arddangosfa sy’n addas i deuluoedd a chasglwch becyn gweithgareddau hwyl llawn gemau geiriau, ysgogiadau ysgrifennu creadigol a thaflenni lliwio â themâu a dilynwch y llwybr tymhorol i’r arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’.  

Cofiwch gasglu copi o ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’ o’r siop anrhegion – yr anrheg berffaith!  

A chofiwch gadw lygad ar y wefan am weithgareddau i’w mwynhau gartref; byddant yn dangos i chi sut i greu cerdyn Nadolig ar thema ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’ a llawer mwy!  

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch fwy am ‘A Child’s Christmas in Wales’