fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Bydd angen

  • Brigyn (o unrhyw hyd, ond hyd ein brigyn ni oedd 15cm)
  • Rhubanau lliw Nadoligaidd neu ddarnau o ddefnydd
    (gallwch hyd yn oed ddefnyddio hen gareiau neu fag siopa plastig trwy ei dorri’n stribedi tenau)
  • Siswrn
  • Llinyn neu gortyn os hoffech hongian eich addurn

 

Cam 1

Torrwch eich brigyn i’ch hyd dewisol a chasglwch eich stribedi o rubanau at ei gilydd – hyd ein rhai ni oedd 20cm.

 

 

 

 

Cam 2

Clymwch y stribed o rubanau o gwmpas y brigyn a’u clymu’n dynn â chwlwm penglwm. Gallwch eu symud i fyny ac i lawr y brigyn a’u troi o gwmpas i sicrhau eu bod yn y lle gorau.

Gadewch fwlch bach ar y gwaelod fel ei bod yn edrych fel boncyff coeden Nadolig a gadewch fwlch ar y pen rhag ofn eich bod am ychwanegu darn o linyn neu seren nes ymlaen.

 

 

Cam 3

Pan fydd eich stribedi o rubanau yn eu lle, defnyddiwch siswrn i dorri’r rhubanau i greu siâp coeden Nadolig.

 

 

 

Cam 4

Gallwch chi bwyso’ch coeden o rubanau yn erbyn rhywbeth fel addurn, neu os hoffech hongian eich addurn, clymwch neu defnyddiwch glud i roi dolen fach o linyn neu gortyn o gwmpas pen y brigyn.

Gallwch hyd yn oed greu coeden enfawr o rubanau i’w hongian ar y wal!

 

Rhagor o syniadau gweithgareddau

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Abertawe’r Nadolig hwn