Beth am greu achres Nadolig arbennig i ddathlu’r adeg hon o’r flwyddyn?
Gallwch roi enwau holl aelodau eich teulu ar beli ar y goeden, a’u haddurno gyda phefr i’w defnyddio fel addurniadau Nadolig hefyd!
Gallwch dynnu llun o’ch coeden, eich seren a’ch peli eich hun, neu gallwch lawrlwytho templed.
Argraffwch y dudalen hon a sicrhewch fod oedolyn yn eich helpu gyda’r darnau anodd.
Lawrlwythwch ac argraffwch y templed neu casglwch eich gwahanol bapurau at ei gilydd.
Os ydych am greu eich un eich hun, tynnwch lun o goeden Nadolig enfawr ar bapur neu gerdyn gwyrdd.
Ysgrifennwch gyfenw eich teulu yn y seren e.e. Teulu Jones.
Os ydych am greu eich un eich hun, tynnwch lun o seren fawr ac ysgrifennwch eich cyfenw.
Ysgrifennwch enwau aelodau’ch teulu yn y peli.
Os ydych am greu eich peli eich hun, defnyddiwch rywbeth siâp cylch i dynnu llun peli, yna ysgrifennwch eich enwau ynddyn nhw.
Gallwch ysgrifennu eich enw chi mewn un, enw mam a dad mewn dwy arall a’ch mam-gu a’ch tad-cu mewn dwy arall.
Gofynnwch i oedolyn eich helpu i dorri’r goeden, y seren a’r peli.
Gludwch eich peli i’ch coeden.
Ychwanegwch unrhyw addurniadau eraill rydych yn eu hoffi.
Gallwch ddefnyddio pefr neu ychwanegu mwy o liw.
Gall eich coeden edrych fel yr hoffech iddi edrych. Dyma syniad i chi!
Nawr fydd angen i chi ludo cefn eich coeden fel ei bod yn gallu sefyll!
Gallwch lawrlwytho templed neu gallwch greu eich un eich hun.
Rhagor o syniadau gweithgareddau
Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Abertawe’r Nadolig hwn