fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Bydd angen

  • Dewis o bapurau gan gynnwys rhai â lliwiau neu batrymau Nadoligaidd
    Gallwch hyd yn oed ailgylchu hen amlenni brown neu bapur newydd er mwyn creu edrychiad hen.
    Bydd papurau dwy ochrog yn gweithio’n dda iawn yma.
  • Siswrn
  • Pensil
  • Pren mesur
  • Tâp ddwy ochrog/selotep/ glud i gysylltu’ch cadwyni
  • Cortyn/llinyn i’w hongian

Cam 1

Torrwch eich papur yn stribedi – gallant fod yn unrhyw led/hyd ond 2.5cm x 15cm oedd hyd ein rhai ni.

 

 

 

 

Cam 2

Gafaelwch mewn un stribed a chreu dolen, gan ddefnyddio tâp ddwy ochrog/selotep i’w ludo at ei gilydd.

Rhowch stribed arall drwy’r ddolen gyntaf i greu ail ddolen, a’i ludo.

 

 

Cam 3

Gwnewch hyn nes eich bod wedi creu cadwyn bapur ddigon hir – gan ddefnyddio papurau gwahanol liwiau a phatrymau.

 

 

 

Cam 4

Clymwch ddarn bach o gortyn/linyn o amgylch pob dolen o’ch cadwyni papur fel y gallwch eu hongian!

 

Rhagor o syniadau gweithgareddau

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Abertawe’r Nadolig hwn