Mae teisen Nadolig dda, sy’n gyfoethog, yn llawn ffrwythau ac yn cynnwys mwy na diferyn bach o alcohol, yn ymgorfforiad o dymor yr ŵyl, ond sut dechreuodd y traddodiad hwn?
Mae gwreiddiau’r deisen Nadolig yn yr uwd eirin a fwytawyd ar noswyl Nadolig i lenwi’r stumog ar ôl diwrnod o ymprydio. Ar ôl peth amser, daeth y cymysgedd uwd i gynnwys ffrwythau sych, sbeisiau a mêl i greu pwdin Nadolig. Ond yn y 16eg ganrif, dechreuwyd defnyddio menyn, blawd gwenith ac wyau yn lle’r blawd ceirch, i ddal y cymysgedd at ei gilydd fel teisen eirin wedi’i berwi. Dechreuodd teuluoedd cyfoethog â ffyrnau greu teisennau ffrwythau gyda marsipán, past siwgr ac almonau ar gyfer y Pasg, ac ar gyfer Nos Ystwyll, fe fydden nhw’n gwneud teisen debyg gan ddefnyddio ffrwythau sych tymhorol a sbeisiau egsotig a oedd yn cynrychioli’r sbeisiau dwyreiniol a gludwyd gan y Tri Gŵr Doeth.
Gyda diwydiannu cynyddol yn ystod y cyfnod Fictoraidd a phatrymau gwaith newidiol, roedd pobl yn mwynhau gwyliau byrrach adeg y Nadolig, a sicrhaodd ddirywiad araf ym mhoblogrwydd Nos Ystwyll. Daeth Dydd Nadolig yn ffocws y dathliadau, a chyda’r newid hwn, dechreuodd pobwyr yr oes Fictoraidd addurno’r teisennau gyda golygfeydd eira’r gaeaf. Daethant yn boblogaidd iawn mewn partïon Nadolig, ac erbyn y 1870au, roedd y deisen Nadolig fodern wedi datblygu. Roedd hi’n gwbl wahanol i’w gwreiddiau uwd eirin.
Fel y rhan fwyaf o bethau mewn bywyd, mae teisen Nadolig a bobwyd gartref yn blasu’n llawer gwell. Rysáit yw hwn ar gyfer tun teisen crwn sydd tua 18cm mewn diamedr. Gallwch ddefnyddio tun maint gwahanol ac amrywio’r symiau’n unol â hyn.