fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Nadolig Llawen oddi wrth Gastell Ystumllwynarth!

 

Ydy’ch rhai bach yn dwlu ar fyd hudol Frozen?

Beth am ailgylchu’r tiwbiau a blychau cardbord hynny i greu castell gaeafol eich hun?

Bydd angen

  • Detholiad o diwbiau/rholiau/blychau cardbord (gallwch ddefnyddio cynifer ag yr hoffech!)
  • Cardbord tenau ar gyfer creu toeon (defnyddion ni hen flwch grawnfwyd)
  • Brwsh paent a phaent (dewison ni liw glas pefriog ar gyfer y prif rhannau ac arian ar gyfer y toeon)
  • Siswrn
  • Pin/pensil
  • Glud neu dâp masgio
  • Defnyddiwch beth bynnag yr hoffech i addurno’ch castell (defnyddion ni lud pefr a sticeri)

Cam 1

Casglwch eich tiwbiau/ rholiau/ blychau cardbord a meddyliwch am sut yr hoffech chi’u trefnu.

 

 

 

 

Cam 2

Torrwch unrhyw fflapiau oddi ar y blychau a phenderfynwch a hoffech chi dorri sgwariau ar dop rhai o’ch tyrau i greu bylchau.

Fe dorron ni ddrws ar gyfer ein porthdy hefyd.

 

 

Cam 3

Penderfynwch faint o’ch tyrau/tyredau yr hoffech chi roi toeon arnynt.

I greu eich toeon, bydd angen i chi ddefnyddio rhywbeth siâp cylch i dynnu llinell o’i gwmpas ar eich cardbord tenau. Ar gyfer tiwbiau papur cegin mwy, tynnon ni linell o amgylch rhywbeth oedd tua 16cm mewn diamedr ac ar gyfer tiwbiau llai tynnon ni linell o amgylch rhywbeth oedd tua 12cm mewn diamedr.

Unwaith y byddwch wedi torri eich cylchoedd, torrwch ongl o 90 gradd yn fras allan o’ch cylch (mae hynny tua chwarter y cylch).

Trowch eich cylch nes ei fod yn ffurfio siâp côn a’i gadw yn ei le gyda glud neu dâp masgio.

Gludwch eich toeon ar eich tyrau/tyredau.

 

Cam 4

Paentiwch bob rhan o’ch castell!

Dewison ni liw glas pefriog ar gyfer y prif rhannau ac arian ar gyfer y toeon.

Efallai bydd angen i chi roi cwpl o haenau o baent gan ddibynnu ar y deunydd pecynnu rydych wedi’i ddefnyddio.

Cam 5

Adeiladwch eich castell, gan gysylltu’r holl rannau at ei gilydd yn ofalus drwy ddefnyddio glud.

(Os yw’n well gennych, gallwch gysylltu rhannau o’r castell yn gyntaf, gyda glud neu dâp masgio, a phaentio wedyn).

 

Cam 6

Addurnwch eich castell gaeafol gydag unrhyw beth y gallwch chi ddod o hyd iddo!

Defnyddion ni lud pefr i ychwanegu’r cyffyrddiadau olaf fel ffenestri a phibonwy ac yna ychwanegwch sticeri ar thema’r gaeaf.

Gallech hefyd ychwanegu eira i’ch toeon gan ddefnyddio paent gwyn.

 

Rhagor o wybodaeth am Gastell Ystumllwynarth

 

Rhagor o syniadau gweithgareddau

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Abertawe’r Nadolig hwn