fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Dewch i ddarganfod Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich a’i hamrywiaeth wych o gynefinoedd – y môr, y traeth, twyni tywod, gwlypdiroedd a choetiroedd… ac mae’n llawn bywyd gwyllt! Os ydych chi’n mynd i’r gors a’r guddfan…cadwch lygad i weld beth sy’n mynd heibio. Efallai y byddwch yn lwcus ac yn gweld ieir dŵr, hwyaid gwylltion, ieir y gors ac elyrch mud. Dyma un o’r lleoedd gorau yn Abertawe i weld dyfrgwn hefyd, felly cadwch lygad amdanynt!

Efallai y gwelwch gwningod – byddwch yn gallu gweld eu tyllau, y maent yn eu defnyddio i guddio rhag y boncathod sy’n hedfan uwchben. Mae’r cwningod yn chwarae rôl bwysig wrth gadw llystyfiant yn isel, sy’n golygu bod ardal Oxwich yn berffaith ar gyfer planhigion prin a phryfed.

Cadwch lygad am friallu yn ystod y gwanwyn – dyma un o’r blodau cyntaf i flodeuo ar ôl y gaeaf ac maent yn hanfodol ar gyfer y peillwyr cynnar… y gwenyn! Daw’r gair ‘briallen’ o’r enw Lladin, ‘Prima Rosa’ sy’n golygu ‘y rhosyn cyntaf’, felly rhosod cyntaf y gwanwyn!

Ar ôl archwilio’r Warchodfa Natur, ewch am dro bywiog ar hyd Bae Oxwich lle gallwch weld hutanod y môr a phïod y môr yn archwilio’r draethlin am fwyd!

 

Gallwch fwynhau profiad bwyta o safon yn Beach House, Oxwich, sy’n edrych dros fae hardd Bae Oxwich. Yn y lleoliad hardd hwn gallwch flasu’r cynnyrch lleol mwyaf ffres, sydd naill ai wedi’i fagu, ei ddal, ei gasglu neu ei dyfu’n lleol, ac mae’r cyfan yn cael ei weini drwy bob tymor. Mae bwyd y prif ben-cogydd, Hywel Griffiths, yn arddangos blas llawn y cynnyrch o bob rhan o Gymru ac yma ar garreg drws Gŵyr. Mae’r bwyty wedi ennill nifer o wobrau am ansawdd y bwyd, gan gynnwys 3 rhoséd gan yr AA, a seren Michelin hollbwysig y mae wedi’i dal ers 2020.

 

 

 

 

 

Ar ôl cinio, ewch i Gefn Bryn sy’n 5 milltir o hyd, a elwir yn aml yn asgwrn cefn Gŵyr. Mae Cefn Bryn yn gymysgedd o dir comin, rhedyn ac eithin, lle gallwch fwynhau golygfeydd syfrdanol heb anghofio am archaeoleg a hanes y lle arbennig hwn. Peidiwch â cholli Maen Ceti, tomen gladdu Neolithig. Yn ôl y chwedl, roedd y Brenin Arthur yn Sir Gaerfyrddin a daeth o hyd i garreg yn ei esgid. Taflodd y garreg ar draws Moryd Llwchwr, a chan fod y brenin wedi cyffwrdd â’r garreg, fe’i tyfodd a thyfodd nes iddi lanio ar Gefn Bryn! Mae merlod yn pori ar y tir comin… ond os ydych chi’n cadw llygad am ddarnau clir o dir, efallai y gwelwch ydfrain yn chwilio am fwyd neu ddeunydd nythu. Mae cyfres o byllau ar hyd Cefn Bryn hefyd – cadwch lygad am rifft brogaod a llyffantod ac efallai ambell i fadfall y dŵr!

Os ydych chi’n crwydro oddi ar y prif lwybr, efallai y gwelwch fadfall – byddant yn ceisio cuddio, felly bydd yn rhaid i chi fod yn gyflym os hoffech chi weld un!

Oes chwant bwyd arnoch ar ôl yr holl gerdded? Rhyw dafliad carreg o Gefn Bryn mae gwesty The King Arthur, lle gallwch ddewis o fwydlen helaeth sy’n addas ar gyfer amrywiaeth eang o flasau gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig lleol. Mae’r prydau arbennig dyddiol yn cynnwys helgig a physgod ffres tymhorol, gydag opsiynau llysieuol a feganaidd. Mae bwyty steilus, dau far ac os yw’r tywydd yn caniatáu, gardd gwrw â golygfeydd o faes y pentref. Yma gallwch weld merlod, defaid a gwartheg Gŵyr yn pori o’ch amgylch wrth i chi fwynhau  diod oer yn yr heulwen! Yn 2021, enwyd y King Arthur fel y gwesty mwyaf cysurus gan The Times.

 

 

Ddim yn awyddus i gwblhau Llwybr Bywyd Gwyllt Gŵyr mewn diwrnod? Arhoswch dros nos ym mhenrhyn Gŵyr a gallwch fwynhau seibiant byr yn lle!

Awgrym da: Cymerwch gip ar lwybrau Bywyd Gwyllt eraill ar y dudalen Llwybrau Bae Abertawe!

Tagiwch ni yn eich lluniau ar Facebook ac Instagram, gan ddefnyddio @baeabertawe a defnyddiwch y stwnshnod #LlwybrauBaeAbertawe #LleHapus