fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Dechreuwch eich taith ar Lwybr Bywyd Gwyllt y Gwanwyn yn Abertawe Wledig yng Nghronfa Lliw. Mae’n dro 2 filltir o gwmpas Cronfa Ddŵr Lliw Isaf a thro 2 filltir arall i fyny i Gronfa Ddŵr Lliw Uchaf. Ewch â’ch sbienddrychau a chadwch lygad am grehyrod a gwylanod cefnddu lleiaf, gwyachod mawr copog, barcutiaid coch, ac mae’n bosib y clywch ambell gnocell y coed yn drymio yn y coed. Mae’r llwybr yn mynd o gwmpas y gronfa ddŵr, felly gallwch fwynhau’r llwybr cerfluniau ac efallai y gwelwch chi ddwrgi yn y nant!

Cadwch lygad hefyd yn y pyllau dŵr am benbyliaid a grifft broga. Cofiwch hefyd am yr amrywiaeth o blanhigion a blodau prydferth sydd yma ger y cronfeydd dŵr. Mae’r eithin yn blodeuo yn y gwanwyn, ac mae ganddynt arogl cnau coco hyfryd! Cadwch lygad am foncathod a chlochdarod y cerrig, sef adar bach sy’n eistedd yn uchel yn y coed. Enwir clochdarod y cerrig ar ôl eu cân, sy’n swnio fel dwy garreg fach yn cael eu taro yn erbyn ei gilydd!

 

 

 

 

Os ydych yn teimlo’n arbennig o egnïol, gallwch fynd ar hyd y llwybr i Gronfa Ddŵr Lliw Uchaf, tro sy’n para 40-50 munud, a chariwch ymlaen i fyny i Fynydd y Gwair i weld golygfeydd godidog. Mae hefyd yn lleoliad gwych i weld ehedyddion!

 

Ar ôl eich antur yng Nghronfa Ddŵr Lliw, ewch i Goed Cwm Penllergaer am dafell o deisen gartref a phaned neu siocled poeth moethus (gyda hufen chwip a malws melys) – blasus!

Cartref John Dillwyn Llewelyn, y garddwr enwog, y ffotograffydd blaengar a’r seryddwr, oedd ystad Fictoraidd Penllergaer gynt, ac mae’n cynnwys dros gant o hectarau o goetir cymysg, saith milltir o lwybrau cerdded hynafol a thawel drwy’r goedwig a thros pum can mlynedd o hanes Cymreig. Mae’r safle hefyd yn adnabyddus am ei raeadr syfrdanol ar Afon Llan, sy’n dolennu drwy’r ystad.

 

 

Cadwch lygad am wyachod, ieir dŵr a siglennod llwyd ger y llynnoedd ac, os byddwch yn lwcus, gallwch hyd yn oed weld glas y dorlan neu grëyr.

Mae llawer o goetir aeddfed yma hefyd… gwrandewch yn astud am ditwod tomos las, robinod a’r siff-saffod sy’n lwcus i fyw yn y lle hyfryd hwn.

Mae Coed Cwm Penllergaer hefyd yn gartref i gymysgedd amrywiol o blanhigion a blodau, gan gynnwys llygaid Ebrill, sy’n rhan o deulu’r blodau menyn a bydd yn un o’r blodau cyntaf a welwch yn y gwanwyn.

 

 

 

 

Amser i orffwys eich traed ar ôl yr holl gerdded? Ewch i Nomad Bar & Kitchen yn Nhre-gŵyr i gael prydau bach a tapas mewn amgylchedd cynnes a chyfeillgar! Mae gan Nomad Bar & Kitchen amrywiaeth mawr o fwydydd a diodydd unigryw gan gynhyrchwyr o ansawdd uchel ac ar raddfa fach na fyddech chi fel arfer yn dod o hyd iddynt ar y stryd fawr.

 

 

 

Ydych chi am dreulio mwy nag un diwrnod yn cwblhau Llwybr Bywyd Gwyllt Abertawe Wledig? Arhoswch dros nos yn Abertawe a gallwch fwynhau seibiant byr yn lle!

Awgrym Gwych: Cymerwch gip ar y Llwybrau Bywyd Gwyllt eraill ar dudalen Llwybrau Bae Abertawe!

A chofiwch ein tagio ni yn eich lluniau ar Facebook ac Instagram – @CroesoBaeAbertawe a defnyddiwch stwnshnodau #LlwybrauBaeAbertawe #LleHapus