fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Ewch ar daith gyffrous ar gwch drwy’r tonnau disglair gyda Gower Coast Adventures o Fae Oxwich i Ben Pyrod. Dan arweiniad criw cymwys proffesiynol â gwybodaeth leol wych, byddwch yn dod ar draws golygfeydd godidog, cyfoeth o fywyd gwyllt morol, hanes lleol cyfareddol (o ogofâu esgyrn cynhanes i straeon am smyglwyr), ynghyd â gwefr unigryw wrth i chi wibio ar draws y dŵr agored. Mae’r criw yn gwybod ble bydd y morloi yn cysgu, y llamhidyddion yn bwydo, ac adar y môr yn nythu. Mae eu hangerdd am y rhywogaethau a’r cynefinoedd morol lleol yn golygu bod ganddynt wybodaeth fanwl am fywyd gwyllt Gŵyr, o ran ble i chwilio am ddolffiniaid, pa glogwyni i chwilio am hebogiaid clwydol, a hefyd awydd cryf i’w gwarchod.

Gallwch fwynhau profiad bwyta o safon yn Beach House, Oxwich, sy’n edrych dros fae hardd Bae Oxwich. Yn y lleoliad hardd hwn gallwch flasu’r cynnyrch lleol mwyaf ffres, sydd naill ai wedi’i fagu, ei ddal, ei gasglu neu ei dyfu’n lleol, ac mae’r cyfan yn cael ei weini drwy bob tymor. Mae bwyd y prif ben-cogydd, Hywel Griffiths, yn arddangos blas llawn y cynnyrch o bob rhan o Gymru ac yma ar garreg drws Gŵyr. Mae’r bwyty wedi ennill nifer o wobrau am ansawdd y bwyd, gan gynnwys 3 rhoséd gan yr AA, a seren Michelin hollbwysig y mae wedi’i dal ers 2020.

 

 

Gallwch fwynhau sesiwn padlfyrddio ar eich traed (SUP) neu gaiacio gydag Oxwich Watersports. Maent hefyd yn cynnig reidiau ar offer chwyddadwy, tonfyrddio, sgïo dŵr a saffaris ar jet-sgis. Cofiwch ddod â phâr o hen esgidiau rhedeg a dillad cynnes a thywel er mwyn i chi sychu ar ôl i chi orffen!

 

Ewch ar daith drawiadol o gwmpas un o drwynau mwyaf prydferth a dramatig Gŵyr; drwy goetir prydferth ac ar draws clogwyni agored gan ddefnyddio rhan o Lwybr Arfordir Gŵyr. Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am lwybr cerdded Trwyn Oxwich yma. Hyd y daith fyrrach yw 3¼ milltir (5km), a hyd y daith hirach trwy Faes Oxwich yw tua 4½ milltir (7km).

 

 

 

Galwch heibio Castell Oxwich, tŷ Tuduraidd mawreddog, wedi’i adeiladu mewn arddull beili, sydd wedi bod yn gwylio Pentref Oxwich ers oes y Tuduriaid. O’r eiliad y byddwch yn cerdded drwy’r porth mawreddog sydd wedi’i addurno ag arfbais Syr Rice Mansel, mae’n amlwg iawn mai hwn oedd cartref teulu bonheddig a oedd am fod yn ysgogwyr a chynhyrfwyr ym mlynyddoedd ffyniannus yr 16eg ganrif. Mae adain ddeheuol gymharol blaen Syr Rice, a ddefnyddiwyd fel ffermdy am oddeutu 200 mlynedd hyd at 1954, yn gyflawn o hyd. Ond adfail bellach yw adain ddeheuol afrad ei fab Edward, gyda’i neuadd ddeulawr a’i horiel hir urddasol gyda golygfeydd godidog o’r môr. Y tu allan yn y beili ceir olion colomendy anferth gyda 300 o nythod. Roedd hwn yn bennaf er mwyn darparu cig ffres i’r castell drwy gydol y flwyddyn, ac yn rhannol fel ffordd o frolio, Yn rhyfeddol, mae Oxwich yn dal yn eiddo i ddisgynyddion y teulu Mansel.

 

 

Os nad oes awydd gennych gwblhau Llwybr Antur Oxwich mewn diwrnod… Gallwch dreulio noson yng ngwesty’r Oxwich Bay Hotel a threulio gwyliau byr yno yn lle!

Tagiwch ni yn eich lluniau ar Facebook ac Instagram, gan ddefnyddio @baeabertawe a defnyddiwch y stwnshnod #LlwybrauBaeAbertawe #LleHapus