Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Gall teuluoedd fwynhau'r bae mewn modd esmwyth gan fod llu o westai, lleoliadau gwely a brecwast, gwersylloedd a safleoedd carafanau ar gael sy'n addas i deuluoedd.
I'r rhai ohonoch sy'n chwilio am hoe fforddiadwy, mae sawl gwesty a hostel rhad ym Mae Abertawe i chi ddewis ohonynt ac mae llawer o weithgareddau fforddiadwy gerllaw i roi'r profiad llawn o Abertawe i chi am bris rhesymol.
Gall y rhai hynny sy'n dwlu ar natur a thraethau ymhyfrydu yn y ffaith nad yw gwestai ym Mae Abertawe byth yn bell o'n traethau neu ein llwybrau cerdded anhygoel.
Os ydych am wneud eich taith hyd yn oed yn fwy arbennig, mae digonedd o westai moethus ym Mae Abertawe sy'n cynnig yr holl amwynderau y bydd eu hangen arnoch yn ystod eich ymweliad.
Bae Abertawe yw'r cyrchfan perffaith i bawb.
Dan sylw yr wythnos hon
- Somerset Place
Morgans Hotel
Yn dilyn y cyngor diweddar gan y llywodraeth, mae’r lleoliad hwn ar gau dros dro. Cysylltwch…
- 388 Mumbles Road
Tides Reach Guest House
Mae gennym hefyd fwthyn hunanarlwyo sy'n croesawu cŵn y drws nesaf, sef Oyster Cottage, ac mae…
Argaeledd Hwyr
Ydych chi'n chwilio am wyliau munud olaf ym Mae Abertawe? Hoe gyflym dros y penwythnos ym mhenrhyn Gŵyr? Dewch o hyd i gynnig gwych yn ein hadran argaeledd hwyr, gan achub y blaen drwy drefnu eich arhosiad nesaf!
Dewiswch eich gwyliau perffaith
Gwestai
P'un a ydych yma at ddibenion busnes neu bleser, byddwch yn dod o hyd i westy addas i'ch ymweliad â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr
Hunanarlwyo
Ychwanegwch eich naws eich hun at eich gwyliau mewn llety hunanarlwyo ym Mae Abertawe a phenrhyn Gŵyr. Gallwch ymlacio gyda'ch anwylyd mewn bwthyn clyd, llogi porthdy sy'n croesawu eich ci neu…
Gwestai Gwely a Brecwast
Ydych chi'n chwilio am groeso cynnes? Arhoswch mewn llety gwely a brecwast ym Mae Abertawe, y Mwmbwls neu benrhyn Gŵyr. Bydd lletywyr cyfeillgar yn gofalu amdanoch ac yn rhannu gair i gall o…
Argaeledd Hwyr
Ydych chi'n chwilio am wyliau munud olaf ym Mae Abertawe? Hoe gyflym dros y penwythnos ym mhenrhyn Gŵyr? Dewch o hyd i gynnig gwych yn ein hadran argaeledd hwyr, gan achub y blaen drwy drefnu eich…
Llety Addas i Gŵn
Ydych chi'n trefnu taith gyda'ch ci? Isod mae amrywiaeth o lety sy'n addas i gŵn, o westai i lety gwely a brecwast a bythynnod clyd.