fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
Page menu
Cysylltwch
Ychwanegu at y Llyfryn Gwyliau

Whiteshell Chalets

Mae'r cabanau hyn mewn cornel dawel ym Mharc Cabanau Gwyliau Summercliffe, taith gerdded fer o Fae Caswell.

Make a booking

07866 567603

http://www.caswell-chalet.co.uk

Croeso Cymru * * *

Whiteshell Chalets

Gosodir y cabanau fel arfer yn wythnosol o ddydd Sadwrn. Fodd bynnag, mae gosodiadau byr ar gael weithiau.

CLICIWCH AR Y DDOLEN HON I WIRIO ARGAELEDD A PHRISIAU
http://www.caswell-chalet.co.uk/prices--availability.html
A chofiwch gael cipolwg ar ein "Cynigion Arbennig", uchod

Mae Cabanau Whiteshell ym Mharc Summercliffe, sy'n safle tawel sy'n cael ei drin â gofal, taith gerdded 5 munud o Fae Caswell.

Mae Bae Caswell yn drawiadol o hardd, gyda thraeth tywodlyd, pyllau trai ac ogofâu. Mae'r traeth yn boblogaidd iawn ar gyfer pob math o weithgareddau. Gallwch nofio, syrffio, corff-fyrddio a chaiacio'n ddiogel yma. Hefyd, mae teithiau cerdded gwych i'w cael ar lwybr yr arfordir, i'r dwyrain a'r gorllewin.
Ar y tir, mae Gwarchodfa Natur Coetir Coed yr Esgob. Mae hwn yn goetir hynafol sy'n llawn bywyd gwyllt a phlanhigion gwyllt prydferth ac yn lle cyffrous i'w archwilio.

Mae pob un o'n cabanau wedi derbyn tair seren gan Groeso Cymru ac maent yn fwy addas i gyplau gan mai dim ond un ystafell wely ddwbl sydd ynddynt. Mae gwely plygu yn y lolfa hefyd - sy'n ddelfrydol ar gyfer plentyn neu oedolyn arall. Croesewir cŵn hefyd. Caiff dillad gwely a thywelion eu cynnwys.
Mae bob caban Whiteshell wedi'i adnewyddu i safon uchel iawn ac mae'r tu mewn wedi'i ddylunio yn ôl thema glan môr, gyda lliwiau morol tawel. Mae'r holl gelfi yno'n newydd, ac fe'u dewiswyd oherwydd eu dyluniad a'u hymarferoldeb. Darperir Wi-Fi a theledu Freeview gyda chwaraewr DVD.

Mae gan bentref y Mwmbwls gerllaw nifer o gaffis a bwytai i ddarparu ar gyfer pob chwaeth, ynghyd â siopau unigryw ac orielau celf preifat. Rydym yn hapus i roi cyngor ar deithiau cerdded, archwilio, llogi siwtiau dŵr. byrddau, gwersi syrffio a bwyta mas.

Designation

Hunanarlwyo

Whiteshell Chalets
Cyfleusterau
Derbynnir cardiau Croeso i blant Croeso i deuluoedd Teledu Freeview Cyfleusterau haearn smwthio Darperir llieiniau Parcio ar y safle Anifeiliaid anwes drwy drefniant Parcio preifat Seibiannau byr ar gael Dim smygu o gwbl Wi-Fi

Amserau agor

JAN FEB MAR APR MAY JUN JUL AUG SEP OCT NOV DEC
No No No Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes No No

Cyswllt

Cyfeiriad post

Whiteshell Chalet
15 Summercliffe Chalet Park
Caswell
Swansea
SA3 3BP

www.caswell-chalet.co.uk

E-bost

info@caswell-chalet.co.uk

Ffoniwch ni

07866 567603

Adolygiadau

Croeso Cymru

Croeso Cymru

* * *

Tariffau

  • Cyfanswm yr unedau 3
  • Cysgu (isafswm) 2
  • Cysgu (uchafswm) 3
  • Prisiau (yr uned yr wythnos) o 370.00

Hygyrchedd

  • Gwell mynediad i bobl â nam symudedd

Lawrlwytho datganiad hygyrchedd