Mae Llys Nini'r RSPCA yn elusen leol sy'n achub ac yn ailgartrefu anifeiliaid.
01792 229435
http://www.rspca-llysnini.org.uk
Partner Swyddogol
RSPCA Llys Nini
Mae Llys Nini'r RSPCA yn elusen leol sy'n achub ac yn ailgartrefu anifeiliaid. Mae ein safle 78 erw yn cynnwys llwybrau, lle chwarae, lluniaeth a Wi-Fi am ddim.
Mae Llys Nini'r RSPCA ar agor drwy'r flwyddyn. Gellir gweld yr anifeiliaid i'w mabwysiadu bob dydd o'r wythnos heblaw am ddydd Mercher. Gellir mynd i'w gweld rhwng 11.00am a 3.45pm.
Mae'r lleoliad ar agor bob dydd ac mae nifer o lwybrau cerdded, y mae rhai ohonynt yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond nid pob un. Mae croeso i gŵn ar denynnau ac mae bagiau baw cŵn ar gael o'r dderbynfa.
Mae lleoedd chwarae ar thema treftadaeth ar gyfer plant 4-12 oed ac ardal luniaeth lle gwerthir diodydd twym ac oer, gyda Wi-Fi am ddim.
Cynhelir diwrnodau gweithgareddau rheolaidd a mynych i'r teulu, a gyhoeddir ar ein tudalen Facebook.
Mae Llys Nini hefyd yn fan ailgylchu. Rydym yn annog ymwelwyr i gyfrannu blancedi a thywelion ar gyfer yr anifeiliaid a dillad ar gyfer ein siopau.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
Walks 9.00 - 5.00 Viewing Animals 11.00 - 3.45 (Not Wednesdays)
Cyswllt
Gwobrau
Gwobr Baner Werdd
Achrediadau
Tourism Swansea Bay Member
Hygyrchedd