Bwthyn Edwardaidd wedi'i gyflwyno'n fenedigedig â dwy ystafell wely, gardd, cegin fodern ac ystafell gawod.
01792 234554
https://www.facebook.com/PiltonHouseGower/
Awaiting Grading
Pilton House Gower
Bwthyn Edwardaidd wedi'i gyflwyno'n fenedigedig â dwy ystafell wely, gardd, cegin fodern ac ystafell gawod. Croeso i 1-3 o gŵn. Addas i'r teulu. Lle cysgu i 4 (+1 'baban').
Mae'r bwthyn yng nghanol pentref Newton (Gŵyr), ychydig uwchben y Mwmbwls, ac mae ganddo ardd libart breifat. Mae siop gyfleustra/siop bapur, un o gigyddion/deli/gwerthwyr ffrwythau gorau'r ardal a dwy dafarn. 10-15 munud ar droed yn unig i lawr y bryn, ceir baeau tywodlyd Langland a Caswell, y ddau ohonynt ar ran Gŵyr o Lwybr Arfordir Cymru, gyda'r Mwmbwls a'i gasgliad unigryw o siopau lleol, bwytai, tafarndai a'r pier enwog yn estyn allan i Fae Abertawe.
Llety
Eiddo trillawr, gyda'r fynedfa, y cyntedd, y gegin, yr ystafell fwyta, ystafell gawod fawr ac ystafell aml-bwrpas oll ar yr un llawr (y lefel ganol).
Mae gan y gegin a osodwyd gwcer nwy ag wyth cylch gyda dwy ffwrn fach a gril. Mae peiriannau eraill yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell, microdon a rhewgell. Mae gan yr ystafell amlbwrpas beiriant golchi dillad a sychdaflwr. Mae gan yr ystafell gawod giwbicl cawod petryalog gyda thŵr cawod, uned goluro ar y wal sy'n cynnwys basn ymolchi a thoiled. Mae gan yr ystafell fwyta fwrdd a chadeiriau i chwe pherson, stôf goed a grisiau sy'n arwain i ..
.. lolfa gyfforddus gyda soffa tri pherson, cadair gwtsio, cadair freichiau, piano, tân nwy ag effaith fflamau, Teledu HD Freeview 32", chwaraewr Blu-ray+DVD, chwaraewr cerddoriaeth DAB, a wi-fi ffeibr am ddim.
O'r cyntedd, mae grisiau'n arwain at ddwy ystafell wely. Yn yr ystafell wely fawr ym mlaen yr eiddo, ceir gwely dwbl, dodrefn traddodiadol (o'r oes Edwardaidd hwyr) a dwy ffenestr y mae un ohonynt yn cynnig golygfeydd o Fae Abertawe. Yn yr ystafell wely yn y cefn, ceir gwely maint brenin mawr sy'n rhoi hyblygrwydd gwych (h.y., gellir ei ddefnyddio fel y mae neu fel dau wely 2 x 3 troedfedd o led).
Hunanarlwyo
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Adolygiadau
Croeso Cymru
Awaiting Grading
Tariffau