Mae Ymddiriedolaeth Penllergaer wrthi'n adfer y baradwys Fictoraidd angof hon lle ceir llynnoedd, rhaeadrau, terasau, a golygfeydd panoramig.
01792 344 224
Partner Swyddogol
Penllergare Valley Woods
Mae Coed Cwm Penllergaer yn dirwedd hardd wedi'i chuddio mewn cwm serth, dafliad carreg i ffwrdd o'r M4 yng ngogledd Abertawe ond eto'n fyd ar wahân iddo.
Gyda'i llynnoedd a’i rhaeadrau, terasau, golygfeydd panoramig a choed a llwyni egsotig, mae'r baradwys Fictoraidd hon yn cael ei hadfer a'i hadfywio'n ara' deg gan Ymddiriedolaeth Penllergaer.
Mae'r maes parcio a'r ganolfan ymwelwyr ychydig oddi ar C47 yr M4. Gall ymwelwyr fwynhau diod yn Siop Goffi'r Coetir, gyda golygfeydd o'r teras dros ein gerddi coetirol a thuag at y llyn uchaf. O'r fan yma, gall ymwelwyr fwynhau dros 12 km o lwybrau cerdded, gan gynnwys tro ar hyd yr hen rodfa gerbydau, a hefyd i lawr i ddyffryn Llan lle roedd y teulu Dillwyn Llewelyn, a fu'n byw ar yr ystâd yn y 19eg ganrif , wedi creu'r llyn uchaf a'r rhaeadr drawiadol. Mae llwybrau a thraciau'n arwain tuag i lawr, ochr yn ochr ag afon Llan wrth iddi ymdroelli tuag at Fforest-fach.
Mae'r coed yn llawn bywyd gwyllt; mae ambell las y dorlan i'w weld ar yr afon ac mae boncathod a barcutiaid coch yn ymwelwyr cyson. Efallai byddwch yn gweld ystlumod, cadnoid a dyfrgwn os ydych yn lwcus. Mae'r coed yn adnabyddus am eu rhododendronau - etifeddiaeth hel planhigion y teulu Dillwyn Llelwelyn. Mae'r rhain, ynghyd â charpedi o gennin pedr a chlychau'r gog gwyllt, yn olygfa boblogaidd yn y gwanwyn.
Mae Siop Goffi'r Coetir ar agor drwy gydol y flwyddyn diolch i'n tîm o wirfoddolwyr, ac mae'n cynnig ein brand unigryw ein hunain o goffi Penllergaer, wedi'i weini mewn arddull barista yn y ffordd yr hoffech chi ei gael.
Caiff yr holl elw o'r siop goffi a'r maes parcio ei ddefnyddio i'n helpu i barhau â gwaith adfer a chynnal Coed Cwm Penllergaer. Rydym yn elusen fach ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyllid gan y cyngor na'r llywodraeth i'n helpu i gadw Coed Cwm Penllergaer yn hygyrch i'n hymwelwyr a'r gymuned leol. Rydym yn dibynnu ar grantiau a rhoddion a'n tîm gwych o wirfoddolwyr.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
Car Park: 9am-5pm
Coffee Shop: 10am-4pm
Toilets: 10am-4pm (every day except Xmas day)
Gwybodaeth oriau agor
The woods are open to pedestrians at all times.
Our office hours are 9am-5pm Monday-Friday. Please note that any phone calls or emails will not be answered outside of these times.
Thank you.
Cyswllt
Visitor Centre
Penllergare Valley Woods
Penllergaer
Swansea
SA4 9GS
Lawrlwythiadau
Gwobrau
Gwobr Baner Werdd
Trip Advisor Certificate of Excellence 2015
Trip Advisor Certificate of Excellence 2016
Trip Advisor 2017 Certificate of Excellence
Twinkl - Top Attraction 2021
Achrediadau
Tourism Swansea Bay Member
Hygyrchedd