Mae Tŷ Bae Langland mewn gardd fawr breifat, gan gynnig golygfeydd di-dor o'r bae a'r penrhyn.
01792 367241
http://www.langlandbayhouse.com
Awaiting Grading
Langland Bay House Bed & Breakfast
Ein nod yw cynnig arhosiad pleserus, hamddenol a phersonol i ymwelwyr ym Mae Langland yn y lleoliad traddodiadol i deuluoedd hwn sydd â chabanau dymunol o Oes Victoria yn amlinellu'r promenâd. Rydym ni'n agos iawn i'r Mwmbwls os hoffech gerdded yno i ymweld â'r castell, tafarndai a thai bwyta, ac mae'n dro byr yn y car i gestyll a thraethau lleol penrhyn Gŵyr, neu'n ymhellach eto i'r Mynydd Du, Bannau Brycheiniog a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Rydym wedi'n lleoli'n berffaith ar gyfer llawer o weithgareddau. Mae RNLI yn gwylio dros y traeth tywodlyd yn ystod y gwyliau ac mae cyrtiau tenis caled a chwrs golff trawiadol gerllaw. Mae cerdded, beicio, nofio, syrffio neu bysgota oll yn weithgareddau lleol i'w mwynhau, ac mae hyfforddiant ar gael.
Rydym yn coginio brecwast Cymreig traddodiadol, sy'n cael ei weini yn yr ystafell fwyta sy'n edrych allan dros y traeth, gan gynnwys ein bara lawr ein hunain a chan ddefnyddio cynnyrch lleol a chartrefol. Mae brecwast llysfwytäol a chyfandirol hefyd ar gael. Mae digon o le i barcio oddi ar y ffordd, garej diogel i feiciau, cyfleusterau sychu a Wi-Fi am ddim. Os ydych chi am ymgilio o'r byd, mae rhwydwaith ffonau symudol yn gyfyngedig, felly dewch i ymlacio ac ymdrochi yn harddwch Cymru!
Gwely a brecwast
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Gwobrau
Croeso i Gerddwyr
Croeso i feicwyr
Adolygiadau
Croeso Cymru
Awaiting Grading
Tariffau