fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
Page menu
Cysylltwch
Ychwanegu at y Llyfryn Gwyliau

Kings Head Inn

Tafarn pedair seren o'r 17eg ganrif ym mhentref Llangynydd, Gŵyr.

Make a booking

01792 386212

http://www.kingsheadgower.co.uk

AA * * * *

Kings Head Inn

Mae rhes o dri adeilad o'r 17eg ganrif y tu ôl i wal gerrig arw yn creu tafarn y King's Head sydd gyferbyn ag eglwys fwyaf Penrhyn Gŵyr ym mhentref arfordirol Llangynydd.
O'r pentref cewch fynediad rhwydd i draeth Llangynydd, lle mae'r tywod yn ymestyn i Rosilli, bron pedair milltir i ffwrdd.
Teulu Stevens sy'n berchen ar y King's Head a nhw sydd wedi'i rheoli ers yr 1980au. Yn y bar traddodiadol sy'n llawn cymeriad gyda'i drawstiau a'i waliau cerrig datgeledig, mae amrywiaeth anhygoel o fwyd yn cael ei weini, ac mae bron popeth yn cael ei baratoi ar y safle ac yn gynnyrch Cymreig ffres.

Mae'r ystafelloedd ar wahan i'r dafarn ac yn cynnwys 3 bloc llety, Town House (drws nesaf i'r dafarn), lle mae gennym ein hystafelloedd mawr i deuluoedd, a 2 adeilad carreg y tu ôl i'r dafarn. Mae pob un o'n hystafelloedd o safon uchel iawn, gyda chyfleusterau en-suite, system wresogi o dan y llawr, teledu plasma a chyfleusterau gwneud te a choffi. Mae ein hystafelloedd yn cynnig amrywiaeth o nodweddion rydym yn gobeithio y byddant yn helpu i wneud eich ymweliad yn un braf dros ben.

Mae rhai o'n hystafelloedd yn derbyn anifeiliaid anwes ac mae gennym hefyd ardal sy'n addas i blant yn y dafarn lle mae croeso i anifeiliaid anwes sy'n ymddwyn yn dda. Caniateir cŵn ar y traeth drwy gydol y flwyddyn hefyd. Gallwn hyd yn oed gynnig llety ar gyfer ceffylau drwy ddarparu stablau o fewn pellter cerdded, felly beth am fanteisio ar y traeth sy'n bedair milltir o hyd?

Mae'r dafarn yn gweini bwyd tafarn o safon drwy'r flwyddyn. Gweler isod am fwydlen enghreifftiol. Sylwer bod ein bwydlenni'n newid yn rheolaidd gan ddefnyddio cynhwysion lleol ffres lle bo hynny'n bosib. Mae'r dafarn ar agor rhwng 11am ac 11pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 12pm a 10.30pm ar ddydd Sul. Mae bwyd yn cael ei weini drwy'r dydd rhwng 11am ac 9.30pm ac eithrio dydd Nadolig. Mae brecwast yn cael ei weini rhwng 8.30am a 10.30am.

Designation

Arall

Kings Head Inn
Cyfleusterau
Derbynnir cardiau Croeso i blant Wheelchair access Ystafelloedd ag ensuite Prydau nos ar gael Croeso i deuluoedd Teledu Freeview Sychwr gwallt Trwyddedig Parcio ar y safle Ardaloedd i anifeiliaid anwes Anifeiliaid anwes drwy drefniant Bwyty / Caffi Seibiannau byr ar gael Te / coffi yn yr ystafelloedd Gwelyau plant bach ar gael Dim smygu o gwbl Teledu yn yr ystafelloedd Wi-Fi Cyfleusterau cyfarfod Visitor Information Point Groups Welcome

Amserau agor

JAN FEB MAR APR MAY JUN JUL AUG SEP OCT NOV DEC
Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes

Cyswllt

Cyfeiriad post

Llangennith, Gower, Swansea
SA3 1HX

www.kingsheadgower.co.uk

E-bost

info@kingsheadgower.co.uk

Ffoniwch ni

01792 386212

Adolygiadau

Graddio AA

AA

* * * *

Tariffau

  • Cyfanswm yr ystafelloedd 27
  • Prices (B&B per room, assuming twin/double occupancy) from £99.00

Hygyrchedd