Ffermdy traddodiadol y tu mewn i ardd furiog ddiogel. Ychydig o funudau'n unig o Horton, traeth tywodlyd a diogel.
01792 390256
* * * *
Horton Farmhouse
Mae penrhyn Gŵyr yn cynnig rhywbeth i bawb, o lwybrau cerdded arfordirol a mewndirol sy'n cynnig golygfeydd anhygoel i draethau tywodlyd a diogel sy'n berffaith ar gyfer nofio a syrffio. Ceir tri chwrs golff a merlota gerllaw. Mae dinas Abertawe oddeutu 15 milltir i ffwrdd, gan gynnig yr holl atyniadau ac adloniant byddwch yn eu disgwyl mewn dinas fawr.
Y Ffermdy:
Lle cysgu i ddeg o bobl + crud mewn pum ystafell wely en-suite, a phob un ohonynt â theledu lliw sy'n chwarae DVD (mae un o'r ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod).
Dwy ystafell wely fawr, tair ystafell wely ddwbl (gallent fod naill ai'n ddwbl neu'n fawr yn unol â'r gofynion)
Darperir dillad gwely (dewch â'ch tywelion eich hunain)
Cegin osod gyda rayburn, ffwrn ddwbl drydanol, oergell, microdon a pheiriant golchi llestri.
Mae gan yr ystafell aml-bwrpas sinc, peiriant golchi, peiriant sychu ac oergell/rhewgell.
Mae gan ystafell ymolchi llawr gwaelod gawod, toiled a sinc.
Mae gan yr ystafell fyw le tân inglenook â stôf llosgi pren, teledu Freeview lliw a chwaraewyr DVD â drysau dwbl sy'n arwain i'r patio.
Mae'r ail ystafell fyw yn arwain i'r ystafell fwyta a'r ystafell wydr.
Mae gan yr ystafell wydr seddau cyffyrddus, system stereo a drysau sy'n arwain i'r patio.
Mae gan yr ystafell fwyta le i 10 o bobl.
Mae lle eistedd i 10 o bobl yn yr ardal batio y tu allan ynghyd â barbeciw nwy
Mynediad i'r rhyngrwyd
Ar gael i'w logi drwy gydol y flwyddyn, ystyrir arosiadau byr yn ystod cyfnodau tawel
Dim smygu y tu mewn i'r ffermdy
Dim anifeiliaid
Mae'r holl gyfleusterau'n gynhwysol
I wirio argaeledd a phrisiau, ewch i'r wefan ganlynol www.hortonfarmgower.co.uk
Hunanarlwyo
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Gwobrau
Croeso i Gerddwyr
Croeso i feicwyr
Adolygiadau
Croeso Cymru
* * * *
Tariffau
Hygyrchedd