Tŷ Bynciau Hardingsdwn - llety cyfforddus a fforddiadwy i unigolion, teuluoedd a grwpiau ar fferm organig weithredol yng nghanol bro Gŵyr.
+441792386222
* * * *
Hardingsdown Bunkhouse
Mae Tŷ Bynciau Hardingsdown yn lleoliad perffaith ar gyfer amrywiaeth o wyliau ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae'r tŷ bynciau ar Fferm Lower Hardingsdown, oddeutu pymtheg milltir o Abertawe ac mae mewn lleoliad delfrydol i chi fanteisio ar olygfeydd, traethau, llwybrau cerdded a cheffyl yr ardal hardd hon.
Ysgubor garreg wedi'i hadfer yn chwaethus ac yn fodern yw'r tŷ bynciau ar fferm organig weithredol.
Gall hyd at 14 o bobl gysgu'n gyfforddus yn y tŷ bynciau. Mae pedair ystafell wely â lle i 12 o bobl a dau wely cadair yn yr ystafell fyw sy'n creu 14 gwely. Mae un ystafell wely ag un gwely bync ar y llawr gwaelod, ac ar y llawr cyntaf mae ystafell wely ag un gwely bync, ystafell wely â gwely bync a gwely sengl ac ystafell wely a phum gwely sengl. Mae ystafell gawod ar y llawr cyntaf gyda thoiled a basn.
Mae ystafell fyw glyd ar y llawr gwaelod yn ogystal â chegin gyda dwy oergell, cwcer â chwe chylch, sinc dwbl, yr holl lestri angenrheidiol, cyllyll a ffyrc, sosbenni a phadellau. Mae dwy ystafell gawod â thoiled a basn ar y llawr gwaelod hefyd.
Mae'r tŷ bynciau wedi'i wresogi trwyddo gyda phwmp gwres ffynhonnell ddaear sy'n ei wneud yn gynnes ac yn glyd ar nosweithiau oer y gaeaf!
Y tu allan mae digon o le i barcio ceir a phatio sy'n berffaith ar gyfer barbeciwiau. Mae ystafell sychu ar wahân hefyd a lle dan glo i storio unrhyw gyfarpar awyr agored yn ogystal â thap allanol i olchi eich offer.
Rhannu ystafell... lle rydych yn talu am eich gwely am y noson ac yna'n rhannu'r cyfleusterau (h.y. y gegin, yr ystafell fyw a'r ystafelloedd ymolchi) â phobl eraill sy'n aros yno. Y gost y person am noson yw £20
Llogi'r llety cyfan... lle rydych yn llogi'r tŷ bynciau cyfan at eich defnydd unigol chi. Y gost yw £220 y noson ar gyfer nos Wener, nos Sadwrn, gwyliau'r ysgol a gwyliau banc. Codir £190 y noson am nos Sul a nosweithiau yng nghanol yr wythnos. Byddai'n costio £1330.00 i logi'r tŷ bynciau am wythnos l
Bunkhouse / Youth Hostels
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Gwobrau
Croeso i Gerddwyr
Croeso i feicwyr
Achrediadau
Tourism Swansea Bay Member
Adolygiadau
Croeso Cymru
* * * *
Tariffau
Hygyrchedd