Rydym yn ffodus i gael lleoliad delfrydol ar gyfer addysgu cyrsiau pŵer-farcuta, tirfyrddio â barcut, cyrsiau coets-farcuta a gwersi syrffio barcut.
01792 446511
Partner Swyddogol
Gower Kite Riders
CHWARAEON BARCUT
Rydym yn ffodus i gael cefndir trawiadol a lleoliad delfrydol ar gyfer addysgu cyrsiau pŵer-farcuta, tirfyrddio â barcut, cyrsiau bygi-farcuta a syrffio barcut.
Mae Gower Kitesurfing wedi bod yn addysgu pobl ym mhob agwedd ar chwaraeon barcut am 13 blynedd ac rydym bob amser yn ceisio'ch annog i berfformio ar eich gorau, beth bynnag yw'r gamp rydych yn dewis ei dysgu gyda ni.
P'un a ydych yn dewis defnyddio barcut pŵer ar y tir, cael eich tynnu ar draws y tywod mewn bygi neu'n rhoi cynnig ar eich ôl-ddolen syrffio barcut gyntaf, rydym bob amser wrth eich ymyl, ar bob cam.
Yr Hanfodion
Mae'r cyfan yn dechrau gyda phŵer-farcuta - gyda phwyslais ar gael hwyl, cewch eich cyflwyno i farcut pŵer ffoil 2 neu 4 llinell ar gyfer y tir a byddwch yn dysgu agweddau ar osod a lansio, diogelwch sylfaenol a rhagofalon hedfan.
Bygi-farcuta a thirfyrddio â barcut
Mae dysgu i fygi-farcuta neu dirfyrddio â barcut yn gymharol hawdd. Rydym yn dechrau gyda chyflwyniad sylfaenol i farcut pŵer bach ac yn gweithio ar eich sgil i'w feistroli cyn rhoi barcut mwy pwerus i chi sy'n gallu'ch tynnu, naill ai ar eich eistedd mewn bygi, neu wrth i chi sefyll ar fwrdd mynydd.
Mae sesiynau'n para rhwng 2 a 3 awr - gan roi'r holl amser a gwybodaeth ym mae eu hangen arnoch i'w feistroli.
Ar gyfer syrffio barcut/barcut-fyrddio
Mae syrffio barcut yn anos i'w feistroli na barcuta ar dir. Mae'r barcutiaid sy'n cael eu defnyddio ar gyfer syrffio barcut yn bwerus iawn, felly mae angen parch a rheolaeth. Mae ymrwymiad hefyd yn ffactor pwysig ac mae'n gamp anodd ei dysgu heb i chi ddeall pob agwedd yn llwyr. Bydd angen i chi ofyn i chi'ch hun a oes gennych yr amser a'r awydd i syrffio barcut.
Bydd unrhyw brofiad o 'chwaraeon bwrdd' fel eirafyrddio neu sglefrfyrddio'n bendant yn eich helpu i wneud cynnydd, ond ein nod yw ceisio sicrhau eich bod yn ymgyfarwyddo â'ch cyfarpar fel bod hedfan barcut fel 'clymu'ch carrai'.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
If you're coming from afar it might be a good idea to let us know just in case we're out on the beach or water teaching.
Gwybodaeth oriau agor
You can visit our Office/ Shop at Francis Street, Swansea, West Glamorgan SA1 4NH. We are directly opposite City Dental.
Cyswllt
The SUP Hut / Gower Kite Riders
Francis Street
Brynmill
Swansea
SA1 4NH
Gwobrau
Achrediadau
Adventure Activities Licensing Authority (AALA)
British Kitesports Association (BKSA)
We're Good to Go
Tourism Swansea Bay Member
Gower Kitesurfing has been teaching people all aspects of Kitesports for 13 years and we always aim to achieve getting the best out of you, whatever you choose to learn with us.
Hygyrchedd