Mae Down to Earth yn cynnig profiadau ac eco-anturiaethau anhygoel o'n dwy ganolfan wych ar benrhyn Gŵyr. Ar agor yn ddyddiol, drwy'r flwyddyn.
01792 232 439
http://www.downtoearthproject.org.uk
Partner Swyddogol
Down to Earth
www.downtoearthproject.org.uk
Gyda dros ddeng mlynedd o brofiad yn cyflwyno anturiaethau arloesol yn yr awyr agored, rydym ni'n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i bob oedran a gallu.
Yn seiliedig ar dyddynnod blaengar ac wedi'u datblygu mewn ffordd gynaliadwy, rydym yn cynnig y gweithgareddau canlynol:
Gweithgareddau antur - dringo coed, arfordiro, abseilio, dringo creigiau, caiacio.
Eco-adeiladu - gosod/creu fframio â phren, adeiladu â beliau gwair, adeiladu â deunydd naturiol, adeiladu waliau sychion a mwy...
Tyfu bwyd a choginio yn yr awyr agored - yn organig ac mor ffres â phosib!
Mae ein safle yn Murton 10 munud o gerdded o draeth Caswell drwy'r goedwig!
Mae ein holl staff wedi cael gwiriad GDG manwl, maent yn gymwys i roi cymorth cyntaf ac mae ganddynt brofiad helaeth o weithio gyda grwpiau gwahanol.
Mae gennym gymarebau staff hynod uchel - 1 i 6 - i sicrhau ein bod ni'n gofalu amdanoch a'ch bod yn cael eich cefnogi.
Fel menter gymdeithasol (nid er elw), mae Down to Earth yn canolbwyntio ar gynnig profiadau sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n wirioneddol ryfeddol!
Mae gennym drwydded yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur a gallwn gynnig achrediad drwy'r RhCA/Agored Cymru, os bydd diddordeb.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
Open 9:30am - 4:30pm.
Cyswllt
Lawrlwythiadau
Gwobrau
Achrediadau
Adventure Activities Licensing Authority (AALA)
Agored Cymru
Ffederasiwn Ffermydd Dinas a Gerddi Cymunedol
Institute for Outdoor Learning
Tourism Swansea Bay Member
Hygyrchedd