Mae traeth Bae Caswell yn fan poblogaidd iawn ymhlith syrffwyr a theuluoedd.
Partner Swyddogol
Caswell Bay beach
Mae traeth Bae Caswell yn fan poblogaidd iawn ymhlith syrffwyr a theuluoedd. Mae gan y bae olygfeydd gwych ac amwynderau hygyrch.
Mae Bae Caswell wedi ennill gwobr y Faner Las a'r Wobr Glan Môr a gellir ei gyrraedd mewn cadair olwyn.
Mae dwy gadair olwyn traeth ar gael i'w llogi am ddim gan Gyngor Abertawe, ond bydd angen cadw lle ymlaen llaw. E-bostiwch Peter.Beynon@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635718.
Mae'r maes parcio oddeutu 100m o'r traeth ac mae toiledau, cawodydd allanol a lluniaeth gerllaw.
Mae gan y maes parcio uned Changing Places fodwlar ger y toiledau presennol. Sylwer y bydd angen côd arnoch er mwyn cael mynediad i'r uned. Ffoniwch wasanaeth Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe ar 01792 461785 (dydd Llun i ddydd Sadwrn) i ofyn am y côd cyn i chi deithio.
Ydych chi wedi anghofio eich bwced a'ch rhaw? Dim problem, gallwch chi brynu un sbâr yn y siopau glan môr ar eich ffordd i'r traeth!
Bydd achubwr bywyd ar y traeth rhwng mis Mai a mis Medi ac mae cludiant cyhoeddus ar gael ym Mae Caswell, er ei fod peth pellter i ffwrdd (oddeutu 400m). Gall y pellter rhwng y safle bws a'r traeth gynnwys tir garw.
Mae Bae Caswell yn addas ar gyfer chwaraeon dŵr ac ni chaniateir cŵn ar y traeth rhwng 1 Mai a 30 Medi.
Mae Bae Caswell hefyd yn draeth dim smygu gwirfoddol.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Gower
SA3 3BS
Gwobrau
Gwobr Baner Las
Gwobr Glan Môr
Hygyrchedd