fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
Page menu
Cysylltwch
Ychwanegu at y Llyfryn Gwyliau

Pylewell Annex

Yn gorwedd yng nghornel de-orllewin Penrhyn Gŵyr, mae ein bythynnod hunanarlwyo yn ddelfrydol i chi archwilio traethau godidog Gŵyr.

Make a booking

https://www.tripadvisor.co.uk/VacationRentalReview-g1885304-d10055278-4_Self_contained_farmhouse_Annex_Rhossili-Rhossili_Swansea_County_South_Wales_Wales.html

Croeso Cymru * * * *

Pylewell Annex

Yn gorwedd yng nghornel de-orllewin Penrhyn Gŵyr, mae ein bythynnod hunanarlwyo yn ddelfrydol i chi archwilio traethau a chlogwyni godidog Gŵyr.

Yn wreiddiol yn adeiladau fferm cerrig, mae ein bythynnod wedi cael eu hadnewyddu i fod yn gartrefol ac yn gysurus. Mae gan bob bwthyn gegin lawn, gan gynnwys golchwr llestri a rhewgell-rewgist, lolfa gysurus, DVD, Freeview a hyd yn oed WiFi i'ch helpu i ymlacio ar ôl diwrnod o fwynhau'r awyr iach. Croesewir anifeiliaid anwes, maen nhw'n haeddu gwyliau hefyd! Gallwch ddod â'ch ceffyl gan y gallwn ddarparu stablau, lifrai a phorfa wych.

Wedi'i leoli ar lôn dawel sydd 5 munud yn unig ar droed o bentref Scurlage, un o ychydig bentrefi ar benrhyn Gŵyr sy'n cynnwys siop, tafarn, meddygfa a fferyllydd. Rydym 5 munud yn unig mewn car o Rosili, y traeth gorau ym Mhrydain a'r 9fed gorau yn y byd!

Mae Penrhyn Gŵyr yn drysor dilychwyn sy'n aros i chi ei archwilio. Y Penrhyn oedd y cyntaf ym Mhrydain i dderbyn anrhydedd 'Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' ac mae'n cynnwys rhai o'r golygfeydd mwyaf anhygoel, y bywyd gwyllt cyfoethocaf a'r cynefinoedd mwyaf amrywiol yn y DU.

Mae ein bythynnod wedi'u lleoli mewn lle delfrydol ar gyfer cerdded, gwylio adar neu ymlacio. Mae llwybr arfordir Gŵyr yn agos ac mae'n arwain at Horton, Oxwich a Bae Tri Chlogwyn i'r dwyrain. Mae Porth Einon a Rhosili i'r gorllewin ac ymlaen at harddwch gogledd Gŵyr, gyda'i gwarchodfeydd adar a'i harfordir garw.

Gobeithio y byddwch yn hoffi'r hyn y gwelwch ac edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Designation

Hunanarlwyo

Cyfleusterau
Croeso i deuluoedd Teledu Freeview Sychwr gwallt Cyfleusterau haearn smwthio Cyfleusterau golchi dillad Darperir llieiniau Parcio ar y safle Anifeiliaid anwes drwy drefniant Parcio preifat Seibiannau byr ar gael Dim smygu o gwbl Wi-Fi

Amserau agor

JAN FEB MAR APR MAY JUN JUL AUG SEP OCT NOV DEC
Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes

Gwobrau

Croeso i Gerddwyr

Croeso i Gerddwyr

Croeso i feicwyr

Croeso i feicwyr

Adolygiadau

Croeso Cymru

Croeso Cymru

* * * *

Tariffau

  • Cyfanswm yr unedau 1
  • Cysgu (isafswm) 1
  • Cysgu (uchafswm) 2
  • Prisiau (yr uned yr wythnos) o 0.00

Hygyrchedd