fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin
Page menu
Cysylltwch
Ychwanegu at y Llyfryn Gwyliau

Swansea Bay without a Car

Anturiaethau ym Mae Abertawe heb gar!

Make a booking

07967389329

http://www.swanseabaywithoutacar.co.uk

Partner Swyddogol

Partner Swyddogol

Swansea Bay without a Car

BayTrans yw'r brif wefan ar gyfer gwybodaeth am gludiant cyhoeddus i ymwelwyr â Bae Abertawe. Ewch i'n gwefan, www.swanseabaywithoutacar.com , a chewch wybodaeth yn ddi-oed pan fyddwch yn dod i'r ardal. Mae hefyd yn rhoi arweiniad i chi ar y gwasanaeth cludiant gorau i unrhyw le rydych am fynd iddo yn Abertawe, Penrhyn Gŵyr, y Mwmbwls, Castell-nedd Port Talbot a'r cymoedd.
Rydym yn falch o allu dweud wrthych pa mor dda yw'r cysylltiadau rhwng Bae Abertawe â gweddill y DU a thramor. Gyda llawer o drenau a choetsis uniongyrchol, a modd teithio o lawer mwy o leoedd gydag un gyfnewidfa gyfleus yn unig, mae cyrraedd yma'n hawdd.
Mae'r bysus lleol ar yr holl brif lwybrau'n niferus ac yn rhai o safon ac mae rhai ar gael sy'n cysylltu ag ardaloedd gwledig.
Eleni, ym 'Mlwyddyn Chwedlau' Croeso Cymru, byddwn yn defnyddio hyn ynghyd â 'Diwylliant' a 'Natur' fel rhesymau dros hyrwyddo teithio i benrhyn Gŵyr a'r cymoedd lleol.
Y ffordd orau o gyrraedd Llwybr Arfordir trawiadol Gŵyr yw gan ddefnyddio bysus lleol; maent yn cysylltu â'r llwybr mewn sawl man ar benrhyn Gŵyr ac yn caniatáu teithiau cerdded llinol. Mae bysus yn addas i gyrraedd y rhan fwyaf o weithgareddau ar benrhyn Gŵyr, a cheir rhwydwaith cynhwysfawr ohonynt.
Disgwylir i wasanaethau'r Sunday Explorer o Abertawe weithredu ar benwythnosau'r Pasg a Chalan Mai, yna bob dydd Sul a gŵyl gyhoeddus o benwythnos olaf y gwanwyn tan 1 Hydref, oherwydd y galw gan y cyhoedd.

Mae'r cymoedd yn cynnig rhai teithiau cerdded trawiadol drwy ardaloedd llawn hanes diwydiannol, y mae digonedd o chwedlau'n gysylltiedig â hwy, mewn amgylchoedd naturiol bendigedig sy'n cynnwys rhaeadrau godidog. Maent rhyw awr yn unig o Abertawe ar fws cyflym Cymru Clipper.

Mae Castell-nedd, Port Talbot a’r cymoedd yn ardal Bae Abertawe yn cynnig cyfoeth o lwybrau cerdded, rhaeadrau a rhyfeddodau cudd. Ac nid oes angen car arnoch i fwynhau hyn oll! http://traveladventures.wales/cy/hafan/

Swansea Bay without a Car
Cyfleusterau

Amserau agor

JAN FEB MAR APR MAY JUN JUL AUG SEP OCT NOV DEC
No No No No No No No No No No No No

Diwrnodau agored

MON TUE WED THU FRI SAT SUN
No No No No No No No

Gwybodaeth oriau agor

Please visit the website for further information.

Cyswllt

Cyfeiriad post

7 Pine Tree Court
Sketty
Swansea
SA2 9AF

www.swanseabaywithoutacar.co.uk

E-bost

johnbaytrans@btinternet.com

Ffoniwch ni

01792205071
07967389329

Gwobrau

Swansea Bay Tourism Awards - Finalist

Swansea Bay Tourism Awards - Finalist

Achrediadau

Tourism Swansea Bay Member

Tourism Swansea Bay Member

Hygyrchedd