fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
Page menu
Cysylltwch
Ychwanegu at y Llyfryn Gwyliau

Bank Farm Leisure Park

Parc Hamdden Bank Farm - y lleoliad gwyliau perffaith ar benrhyn Gŵyr

Make a booking

01792 687205

http://www.bankfarmleisure.co.uk

Croeso Cymru * * *

Bank Farm Leisure Park

Mae Bank Farm, lle ceir 180 o leiniau ar gyfer pebyll, cerbydau cartref a charafanau, yn cynnig croeso cynnes i deuluoedd neu gyplau sydd am fwynhau'r hyn sydd gan Benrhyn Gŵyr i'w gynnig. Mae Bank Farm ym mhentref Horton, yn darparu lleiniau glaswellt a llawr caled, gyda neu heb gyflenwad trydan o 1 Mawrth 2018 i 6 Ionawr 2019.

Yn Bank Farm, mae bloc toiledau a chawodydd mewn man canolog. Cafodd ei adnewyddu'n llawn ar ddechrau 2016 ac mae'n cynnwys ystafelloedd i blant a rhieni. Mae ardal golchi llestri gyda dŵr twym am ddim ar gael ar un ochr o'r cyfleusterau toiled/cawod a cheir man gwaredu toiledau cemegol ar yr ochr arall. Mae pwyntiau dŵr amrywiol ar gael o gwmpas y safle ym mhob cae.

Mae ein Tŷ Clwb, gyda Wi-Fi am ddim a bar trwyddedig, yn cynnwys amrywiaeth eang o ddiodydd alcoholig a meddal i chi eu mwynhau wrth edrych dros Borth Einon a Bae Horton. Mae bwyd yn cael ei weini bob dydd gyda detholiad o brydau a byrbrydau sy'n darparu ar gyfer y teulu cyfan. Rydym yn cynnal adloniant rheolaidd trwy gydol y tymor gan gynnwys bingo, caraoce, adloniant byw a nosweithiau cwis. Mae gennym BT Sport a Sky yn Nhŷ'r Clwb fel nad ydych yn colli'r digwyddiadau chwaraeon diweddaraf.

Mae Bank Farm yn cynnig cyfleusterau i bobl o bob oedran. Wrth i chi gael hoe o ymweld ag atyniadau'r ardal, fel gwesteion Bank Farm gallwch ddefnyddio'r pwll cynnes awyr agored sy'n cael ei orchuddio gan do ôl-dynadwy, a hynny heb unrhyw gost ychwanegol, neu logi'r cwrt tenis maint llawn. Mae lle chwarae antur awyr agored yma ar gyfer y plant. Gall ein siop fach a'n golchdy ar y safle ddiwallu eich holl anghenion hanfodol. Mae Wi-Fi o safon hefyd ar gael am dâl bach.

Gallwn bellach ddarparu ar gyfer cynulliadau carfanau a phebyll am hyd at 5 niwrnod heb yr angen am ganiatâd cynllunio. Mae gan gae'r cynulliad hyd at 60 o bwyntiau trydan ac mae'r cyfleusterau toiled a'r cawodydd gerllaw.

Gwerthir carafanau sefydlog ar y safle hefyd; ewch i'r wefan neu cysylltwch â'r dderbynfa os oes gennych ddiddordeb.

Podiau Gwersylla Moethus - newydd o 2017. Mae'r pod yn 5.4 metr o hyd wrth 3 metr o led, gyda drws gwydr dwbl a ffenestr sy'n agor yn y cefn. Mae ganddo system llif aer unigryw, gwresogydd wal, microdon a thegell, teledu a chwaraewr DVD ac oergell fach, ac mae lle i 4 gysgu ynddo.

Ffoniwch y dderbynfa i logi un neu ewch i'r wefan a'r tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf. Fe'ch cynghorir i archebu lle ymlaen llaw ar gyfer gwyliau banc neu wyliau ysgol.

Y pris i garafanau teithiol a phebyll yw £20.35 y nos.

Designation

Parc Gwyliau, Teithio a Gwersylla

Bank Farm Leisure Park
Cyfleusterau
Derbynnir cardiau Cyfleusterau toiledau cemegol Croeso i blant Maes chwarae i blant Gwely crud ar gael Wheelchair access Mannau trydanol Adloniant nos Prydau nos ar gael Croeso i deuluoedd Siop fwyd / deithiol Teledu Freeview Silindrau nwy Twb poeth Pwll dan do Cyfleusterau golchi dillad Trwyddedig Llieiniau i’w hurio Cerddoriaeth fyw Parcio ar y safle Pwll awyr agored Anifeiliaid anwes drwy drefniant Parcio preifat Bwyty / Caffi Teledu lloeren Seibiannau byr ar gael Cawodydd Toiledau Wi-Fi Toiled Hygyrch

Amserau agor

JAN FEB MAR APR MAY JUN JUL AUG SEP OCT NOV DEC
No No Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes

Cyswllt

Cyfeiriad post

Horton
Gower
Swansea
SA3 1LL

www.bankfarmleisure.co.uk

E-bost

enquiries@bankfarmleisure.co.uk

Ffoniwch ni

01792 687205

Adolygiadau

Croeso Cymru

Croeso Cymru

* * *

Tariffau

  • Nifer y carafanau sefydlog 0
  • Nifer y lleiniau i garafanau teithiol 100
  • Nifer y lleiniau i bebyll 80
  • Cyfanswm y lleiniau 180
  • Prisiau yr wythnos o £0.00

Hygyrchedd

  • Gwell mynediad i bobl â nam symudedd