Parc Hamdden Bank Farm - y lleoliad gwyliau perffaith ar benrhyn Gŵyr
01792 687205
http://www.bankfarmleisure.co.uk
* * *
Bank Farm Leisure Park
Mae Bank Farm, lle ceir 180 o leiniau ar gyfer pebyll, cerbydau cartref a charafanau, yn cynnig croeso cynnes i deuluoedd neu gyplau sydd am fwynhau'r hyn sydd gan Benrhyn Gŵyr i'w gynnig. Mae Bank Farm ym mhentref Horton, yn darparu lleiniau glaswellt a llawr caled, gyda neu heb gyflenwad trydan o 1 Mawrth 2018 i 6 Ionawr 2019.
Yn Bank Farm, mae bloc toiledau a chawodydd mewn man canolog. Cafodd ei adnewyddu'n llawn ar ddechrau 2016 ac mae'n cynnwys ystafelloedd i blant a rhieni. Mae ardal golchi llestri gyda dŵr twym am ddim ar gael ar un ochr o'r cyfleusterau toiled/cawod a cheir man gwaredu toiledau cemegol ar yr ochr arall. Mae pwyntiau dŵr amrywiol ar gael o gwmpas y safle ym mhob cae.
Mae ein Tŷ Clwb, gyda Wi-Fi am ddim a bar trwyddedig, yn cynnwys amrywiaeth eang o ddiodydd alcoholig a meddal i chi eu mwynhau wrth edrych dros Borth Einon a Bae Horton. Mae bwyd yn cael ei weini bob dydd gyda detholiad o brydau a byrbrydau sy'n darparu ar gyfer y teulu cyfan. Rydym yn cynnal adloniant rheolaidd trwy gydol y tymor gan gynnwys bingo, caraoce, adloniant byw a nosweithiau cwis. Mae gennym BT Sport a Sky yn Nhŷ'r Clwb fel nad ydych yn colli'r digwyddiadau chwaraeon diweddaraf.
Mae Bank Farm yn cynnig cyfleusterau i bobl o bob oedran. Wrth i chi gael hoe o ymweld ag atyniadau'r ardal, fel gwesteion Bank Farm gallwch ddefnyddio'r pwll cynnes awyr agored sy'n cael ei orchuddio gan do ôl-dynadwy, a hynny heb unrhyw gost ychwanegol, neu logi'r cwrt tenis maint llawn. Mae lle chwarae antur awyr agored yma ar gyfer y plant. Gall ein siop fach a'n golchdy ar y safle ddiwallu eich holl anghenion hanfodol. Mae Wi-Fi o safon hefyd ar gael am dâl bach.
Gallwn bellach ddarparu ar gyfer cynulliadau carfanau a phebyll am hyd at 5 niwrnod heb yr angen am ganiatâd cynllunio. Mae gan gae'r cynulliad hyd at 60 o bwyntiau trydan ac mae'r cyfleusterau toiled a'r cawodydd gerllaw.
Gwerthir carafanau sefydlog ar y safle hefyd; ewch i'r wefan neu cysylltwch â'r dderbynfa os oes gennych ddiddordeb.
Podiau Gwersylla Moethus - newydd o 2017. Mae'r pod yn 5.4 metr o hyd wrth 3 metr o led, gyda drws gwydr dwbl a ffenestr sy'n agor yn y cefn. Mae ganddo system llif aer unigryw, gwresogydd wal, microdon a thegell, teledu a chwaraewr DVD ac oergell fach, ac mae lle i 4 gysgu ynddo.
Ffoniwch y dderbynfa i logi un neu ewch i'r wefan a'r tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf. Fe'ch cynghorir i archebu lle ymlaen llaw ar gyfer gwyliau banc neu wyliau ysgol.
Y pris i garafanau teithiol a phebyll yw £20.35 y nos.
Parc Gwyliau, Teithio a Gwersylla
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
No | No | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Adolygiadau
Croeso Cymru
* * *
Tariffau
Hygyrchedd