fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
Page menu
Cysylltwch
Ychwanegu at y Llyfryn Gwyliau

Bank Farm Bungalows

Byngalos hunanarlwyo sydd wedi'u dodrefnu'n llawn ym mhentref Horton.

Make a booking

01792 687205

http://www.bankfarmleisure.co.uk

Croeso Cymru From * * * To * * * *

Bank Farm Bungalows

Byngalos hunanarlwyo sydd wedi'u dodrefnu'n llawn ym mhentref Horton. Maent yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd am fwynhau'r hyn sydd gan benrhyn Gŵyr i'w gynnig.
Mae Bank Farm, sy'n cynnwys 16 o fyngalos hunanarlwyo, yn croesawu teuluoedd neu barau sydd am fwynhau'r hyn sydd gan Benrhyn Gŵyr i'w gynnig. Mae ein byngalos ym mhentref Horton wedi'u dodrefnu'n llawn ac yn cynnig llety i 4 neu 5 o bobl o fis Mawrth i fis Ionawr.

Mae ein byngalos yn cynnwys cegin â'r holl gyfarpar a lolfa/man bwyta cynllun agored, ystafell ymolchi a dwy ystafell wely. Mae gan yr holl fyngalos wresogyddion ar y waliau ar gyfer misoedd oerach y tymor. Mae'r lolfa a'r man bwyta'n cynnig ystafell eang lle gellir ymlacio â theledu lliw a chwaraewr DVDs. Gyda'u mynediad preifat eu hunain, mannau parcio dynodedig, o fewn 2 funud i'w gilydd a 5 munud i'r prif gyfleusterau ar droed, mae'r byngalos hyn yn cynnig lleoliad gwych i dreulio eich gwyliau.

Mae ein byngalo hwylus i bobl anabl yn cynnig amrywiaeth eang o addasiadau. Ystyriwyd pobl â nam ar y golwg wrth iddo gael ei ddylunio a cheir lliwiau cyferbyniol drwy'r eiddo; gyda'i fynediad gwastad a'i ystafell gawod sydd wedi'i haddasu ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn, mae'r byngalo'n diwallu pob angen. Hefyd, rydym yn cynnig sawl byngalo sy'n derbyn anifeiliaid anwes a rhai lle na chaniateir anifeiliaid anwes.

Mae Bank Farm yn cynnig cyfleusterau i bobl o bob oedran. Mae'r Clubhouse, sy'n cynnig Wi-Fi am ddim, Sky TV a bar sydd wedi'i drwyddedu, yn edrych dros Borth Einon a Bae Horton. Mae bwyd yn cael ei weini bob dydd gyda detholiad o brydau a byrbrydau sy'n darparu ar gyfer y teulu cyfan. Gall gwesteion Bank Farm ddefnyddio'r pwll cynnes sy'n cael ei warchod gan do ôl-dynadwy neu achub ar y cyfle i logi'r cwrt tenis maint llawn. Ar gyfer y plant, mae gennym le chwarae antur awyr agored. Gall ein siop fach a'n golchdy ar y safle ddiwallu eich holl anghenion hanfodol.

Designation

Hunanarlwyo

Bank Farm Bungalows
Cyfleusterau
Derbynnir cardiau Croeso i blant Gwely crud ar gael Wheelchair access Adloniant nos Prydau nos ar gael Croeso i deuluoedd Teledu Freeview Pwll dan do Cyfleusterau golchi dillad Trwyddedig Llieiniau i’w hurio Parcio ar y safle Pwll awyr agored Anifeiliaid anwes drwy drefniant Parcio preifat Bwyty / Caffi Seibiannau byr ar gael Te / coffi yn yr ystafelloedd Wi-Fi

Amserau agor

JAN FEB MAR APR MAY JUN JUL AUG SEP OCT NOV DEC
No No Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes

Cyswllt

Cyfeiriad post

Bank Farm Leisure Park
Horton
Gower
Swansea
SA3 1LL

www.bankfarmleisure.co.uk

E-bost

enquiries@bankfarmleisure.co.uk

Ffoniwch ni

01792 687205

Adolygiadau

Croeso Cymru

Croeso Cymru

From * * * To * * * *

Tariffau

  • Cyfanswm yr unedau 25
  • Cysgu (isafswm) 4
  • Cysgu (uchafswm) 5
  • Prisiau (yr uned yr wythnos) o 505.00

Hygyrchedd

  • Gwell mynediad i bobl â nam symudedd

Lawrlwytho datganiad hygyrchedd