fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Os yw’r haul yn tywynnu, does dim lle gwell i dreulio’ch diwrnod nag ar un o draethau prydferth Abertawe – ac mae llawer o ddewis ar gael, traethau diogel a thywodlyd, rhai diddorol a charegog neu draethau â golygfeydd ysblennydd a digonedd o le.

Chwarae’n Ddiogel

Mae gan rai traethau lanwau a cherhyntau cryf, felly gwiriwch y tywydd a’r amodau llanw cyn nofio neu wneud unrhyw weithgareddau. Os oes baneri a hysbysiadau rhybuddio, dylech ufuddhau iddynt bob amser.

Traethau sydd wedi’u patrolio gan achubwyr bywyd yr RNLI sydd orau ar gyfer nofio, yn enwedig i blant.

I gael rhagor o wybodaeth am draethau unigol a’u cyfleusterau, ewch i www.croesobaeabertawe.com/listings/beaches/

Patrolau Achubwyr Bywyd yr RNLI | Gwanwyn/Haf  2022

Langland a Caswell:

30 Ebrill – 18 Medi 7 niwrnod yr wythnos, amserau patriolio 10am-6pm.

Porth Einon:

30 Ebrill – 4 Medi 7 niwrnod yr wythnos, amserau patriolio 10am-6pm.

Bae’r Tri Chlogwyn:

Penwythnosau a gwyliau banc yn unig 30 Ebrill – 22 Mai.

Hanner tymor mis Mai 28 Mai – 5 Mehefin.

Penwythnosau a gwyliau banc yn unig 11 Mehefin- 26 Mehefin

Bob dydd 2 Gorffennaf – 4 Medi

Amserau patriolio 10am-6pm

Bydd achubwyr bywyd ar batrôl rhwng y baneri coch a melyn rhwng 10.00am a 6.00pm bob dydd, a byddant ar gael i ddarparu cyngor os yw pobl yn ansicr am y llanw neu’r amodau ymdrochi.

Am ragor o wybodaeth am achubwyr bywyd a phatrolau’r RNLI, ewch i wefan yr RNLI

Mae digonedd o draethau yn Abertawe ac rydym am i bawb eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn.

Mae nifer o’n traethau wedi ennill statws Y Faner Las, sy’n adlewyrchu pethau pwysig megis ansawdd y dŵr, rheoli traethau a pha mor lân ydyn nhw.

Sut gallwch chi helpu?

Rydym am i bawb sy’n ymweld â’n traethau eu parchu a’n helpu i’w cadw’n lân.

Ac mae’n hawdd iawn…
Y cyfan rydym yn ei ofyn yw bod ymwelwyr yn defnyddio’r biniau sbwriel sydd ar gael i gael gwared ar eu sbwriel. Os yw’r biniau sbwriel yn llawn, gofynnwn i ddefnyddwyr ein traethau fynd â’u sbwriel gartref i gael gwared arno.

Gall gwastraff o farbeciwiau un tro a chyffredin fod yn beryglus, yn enwedig i blant. I sicrhau eich bod yn cael gwared ar farbeciwiau’n ddiogel, gan gynnwys glo poeth, mae biniau barbeciw gwrth-dân ar gael ar y traethau canlynol – Caswell, Langland, Rotherslade a Bae Abertawe (ger The Secret Beach Bar and Kitchen).

Am ragor o wybodaeth, ewch i abertawe.gov.uk/traethau