Efallai fod Amgueddfa Abertawe wedi gorfod cau oherwydd Coronafeirws, ond nid yw’n stopio’r amgueddfa rhag rhannu treftadaeth yr ardal.
Gan ddefnyddio rhywfaint o dechnoleg, mae tîm yr amgueddfa wedi bod yn mynd trwy’r casgliad o wrthrychau, ffotograffau a recordiadau sydd yno i gyflwyno cyfres o sgyrsiau ar-lein.
Mae’r gyntaf o’r sgyrsiau am hanes Abertawe ar-lein nawr, ac mae’n gyflwyniad addysgol a gweledol ar reilffordd gyntaf y byd i gludo teithwyr, sef Rheilffordd y Mwmbwls.
Yn ystod y fideo 30 munud, mae Phil Treseder, swyddog dysgu a chyfranogiad yr amgueddfa, yn cyflwyno mapiau, ffotograffau, cardiau post ac atgofion o’r rheilffordd enwog a agorodd dros ddau ddegawd yn ôl ac a gaeodd ym 1960.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae’r gyfres hon o sgyrsiau ar-lein yn ffordd hynod ddiddorol o ddefnyddio’ch amser yn ddoeth yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.
“Mae staff ein hamgueddfa’n dod â phynciau’n fyw trwy adrodd straeon mewn ffordd hygyrch iawn.
“Mae’r gwasanaeth a ddarperir gan Amgueddfa Abertawe bob amser wedi cynnwys rhaglen weithredol ar gyfer y gymuned.
“Nawr, er bod yr adeilad ar gau dros dro, mae staff yr amgueddfa’n parhau â’r rhaglen cynnwys y gymuned ac yn dangos eu bod yma i Abertawe yn fwy nag erioed.”
Gallwch ddod o hyd i sgyrsiau treftadaeth yr amgueddfa ar ein gwefan, joiobaeabertawe.com.
I ddarllen y stori newyddion lawn, ewch i abertawe.gov.uk