fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Menter Llywodraeth Cymru ar draws Cymru yw Rhaglen Cyfuno, sy’n cefnogi cyfleoedd drwy ddiwylliant i helpu i wella bywydau. Mae rhaglen Cyfuno Abertawe’n cael ei hariannu ar y cyd a’i chynnal gan Wasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe, ac mae’n cefnogi pobl i gael mynediad at weithgareddau diwylliannol er lles, i ddysgu sgiliau bywyd perthnasol newydd ac i gymunedau gael dylanwadu ar raglennu.

Mae Cyfuno Abertawe’n gweithio’n agos gyda phartneriaid ar draws y ddinas i rannu gwybodaeth, hyrwyddo mentrau ac ymgysylltu â chymunedau lleol. Dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, mae Cyfuno Abertawe wedi gweithio gyda miloedd o bobl o bob oedran, cefndir a sefyllfa i ddysgu sgiliau a meddu ar wybodaeth trwy weithgareddau megis; creu ffilmiau, ysgrifennu creadigol, chwarae cerddoriaeth, dawnsio, crefftau, animeiddio, treftadaeth Abertawe, gwirfoddoli, creu digwyddiadau ac arddangosfeydd a llawer o gelf weledol!

Podlediad Come Together Cast

podlediad hwyliog a ddyluniwyd er mwyn tynnu sylw at y gwaith gwych sy’n digwydd yn ein cymunedau, rhannu syniadau ar gyfer cynnal lles, tynnu sylw at dreftadaeth leol a helpu i hyrwyddo prosiectau diwylliannol.

Rhagor o wybodaeth

Gŵyl y Gwneuthurwyr Newid

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am dreftadaeth weithredaeth a newid cymdeithasol Abertawe trwy arddangosfeydd diwylliant a chelf, podlediadau, ffilmiau a chreadigrwydd cymunedol.

Y daith
Y ffilm
Y podlediadau
Y gymuned

Detholiad ‘Unlocked’

Casgliad ysgrifenedig cymunedol sy’n archwilio profiadau pobl yn ystod 2020, gan arddangos sut rydym yn defnyddio pŵer geiriau ysgrifenedig i fynegi, rhannu, a gwneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas.

Rhagor o wybodaeth

50 Mlynedd o Gerddoriaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am dreftadaeth gerddorol foethus Abertawe yn y gyfres hon o gyfweliadau hanes llafar a wnaed gan gyfranogwyr y rhaglen Cyfuno.

Rhagor o wybodaeth

I gysylltu â’r tîm, e-bostiwch amina.abu-shahba@abertawe.gov.uk

Ymunwch â ni ar Twitter

DILYNWCH NI

I ddarganfod rhagor am ein rhaglenni am ddim neu i ddod yn bartner â’r rhaglen Cyfuno, e-bostiwch amina.abu-shahba@swansea.gov.uk