Bob wythnos, bydd yr oriel yn rhannu gweithgaredd newydd i chi ei gwblhau, neu gallwch lawrlwytho’r holl becyn celf drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/dysguglynnvivian
Bydd yr arweinlyfrau cam wrth gam sy’n hawdd eu dilyn ar gael o ddydd Llun 20 Gorffennaf i blant o bob oedran a’u gofalwyr.
Trwy ddilyn rysáit syml, gallwch roi cynnig ar greu eich toes chwarae halen bwytadwy eich hun, pen picsel cardbord neu gallwch ddylunio roced jync trwy ddefnyddio sbwriel a phethau y gellir eu hailgylchu yn eich cartrefi.
Anfonwch luniau o’ch gwaith atom ar-lein yn @OG_GlynnVivian #DysguGlynnVivian #GlynnVivianGartref a byddwn yn eu rhannu bob wythnos ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar ddydd Sadwrn.
Cadwch lygad am y rhaglenni canlynol gan dîm y Glynn Vivian ar Facebook, Instagram, Twitter ac YouTube.
Gallwch hefyd fynd i’n gwefan ddynodedig, Dysgu Glynn Vivian, am ragor o syniadau a gweithgareddau creadigol.
Rydym yn lansio rhaglen gyffrous newydd ar-lein. Bob wythnos, byddwn yn cyflwyno’r cynnwys canlynol i’ch ysgogi i fod yn greadigol!