fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Byd o adnoddau digidol ar flaenau eich bysedd

Mae Llyfrgell Abertawe’n cynnig digonedd o adnoddau am ddim y gellir eu cyrchu o’ch cartref eich hun. Os ydych yn colli ymweld â Llyfrgelloedd Abertawe, neu rydych am ddarganfod yr hyn sydd i’w gynnig, aelodaeth llyfrgell yw eich allwedd i filoedd o adnoddau ar-lein, gan gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau, e-gomics, papurau newydd, help gyda’ch gwaith cartref a llawer mwy.

Sialens Ddarllen gan Lyfrgelloedd Abertawe

Mae’n newyddion gwych bod y Llyfrgell Ganolog yn ogystal â llyfrgelloedd Gorseinon, Treforys ac Ystumllwynarth bellach ar agor ar gyfer gwasanaeth ‘Ffonio a Chasglu’, ac mewn pryd ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf eleni hefyd.

Y thema yw Sgwad Gwirion a phob blwyddyn ers 1999 mae plant ledled y DU wedi bod yn cymryd rhan trwy ddarllen 5 llyfr yn ystod gwyliau’r haf a chymryd rhan mewn llawer o weithgareddau difyr! Eleni, fel llawer o bethau eraill, bu’n rhaid cynnal yr her o bellter cymdeithasol ac mae wedi mynd yn hollol ddigidol. Waw!!! Yr un heriau gwych ond mewn byd rhithwir.

Cymerwch gip yma: https://summerreadingchallenge.org.uk/

Bydd y tîm yn Llyfrgelloedd Abertawe yn gwisgo’u hetiau mwyaf hurt a gwallgof ac yn dod â haf o ddigwyddiadau ar-lein llawn hwyl a chyffro i chi. Er nad ydynt yn gallu chwerthin gyda chi yn eu llyfrgelloedd, byddant yn gwneud i chi chwerthin yn eich gerddi ac yn eich ystafelloedd byw!

Yn ogystal â’r Sialens Ddarllen mae digonedd o hwyl AM DDIM ar-lein bob dydd, gan  cynnwys

Hwyl Dydd Llun – Amser stori am 11am, wedi’i ddilyn gan grefftau neu weithgaredd.

Mawrth Awgrymiadau Da – Bydd tîm y Llyfrgell yn rhannu eu hawgrymiadau gorau a’u cyfrinachau llyfrgell i’ch helpu chi i ddewis eich llyfr nesaf neu ddysgu rhywbeth newydd.

Mercher Ymarfer / Mercher Ysgrifennu – bydd y tîm yn cadw’n heini ac yn rhannu llawer o syniadau ymarfer corff llawn hwyl. Efallai y byddwch hyd yn oed yn gweld rhai o “sgwad gwirion” ein llyfrgell yn dawnsio i sesiwn “Traed Prysur”.

Rydyn ni am i chi ysgrifennu’ch straeon mwyaf gwirion a chyfansoddi’ch cerddi mwyaf doniol – darllenwch nhw’n uchel, dewch â nhw’n fyw gan ddefnyddio LEGO. Cadwch lygad am her ysgrifennu bob dydd Mercher.

Iau Hen Luniau – Allwch chi adnabod y lleoliad yn Abertawe? Oeddech chi yno? Bydd y tîm yn rhannu atgofion am Abertawe a Llyfrgelloedd Abertawe.

Gwener Gwirioneddau – Bydd y tîm yn rhannu gwirioneddau doniol a bydd cwis hefyd bob dydd Gwener i’ch helpu chi i ddewis eich llyfr nesaf – wyddech chi eich bod yn gallu lawrlwytho llyfrau AM DDIM gan ddefnyddio BorrowBox https://www.abertawe.gov.uk/lawrlwythiadaudarllen

Dydd Sadwrn Gwirion – Bydd y tîm yn rhannu llawer o weithgareddau Sialens Darllen yr Haf i’ch cadw chi i chwerthin drwy’r penwythnos.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y tîm ar Facebook, Twitter ac Instagram ac yn mwynhau’r adloniant am ddim gan Lyfrgelloedd Abertawe yr haf hwn.

Gan fod ysgolion ar draws Cymru ar gau ar hyn o bryd, mae ein gwasanaethau’n cynnig ffordd wych o ddiddanu, ysbrydoli ac addysgu plant gartref. Ewch i’n porth ar-lein i gael cymorth gyda gwaith cartref i gynorthwyo addysgu yn y cartref a gallwch gael mynediad at ystod o adnoddau addysgol, gyda gwybodaeth ddibynadwy sy’n addas at oedrannau gwahanol a digon o weithgareddau i gadw plant yn brysur – gan gynnwys mynediad at wyddoniaduron ar-lein a ffynonellau gwybodaeth megis World Book Online a Credo Reference.

LANSIO PORTH

E-bapurau newydd

Gallwch hefyd gael mynediad at bapurau newydd am ddim – mae NewsBank yn darparu cynnwys testun llawn o amrywiaeth o gyhoeddiadau cenedlaethol y DU a rhanbarthol yng Nghymru. Mae hyn yn ddelfrydol os ydych am gael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau cenedlaethol, rhyngwladol a lleol!

 

BorrowBox ac RB Digital

Mae gan Lyfrgelloedd Abertawe hefyd lawer i’w cynnig i’r rheini sydd am neilltuo amser i ganolbwyntio ar les a chael amser tawel mawr ei angen. Gall aelodau lawrlwytho BorrowBox, adnodd ar-lein sy’n cynnwys miloedd o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar am ddim i blant ac oedolion yn Gymraeg ac yn Saesneg. www.abertawe.gov.uk/lawrlwythiadaudarllen

Yn ogystal, mae RB Digital yn ffordd wych o ddarllen eich hoff e-gylchgronau a’ch e-gomics gartref. Ewch i https://wales.rbdigitalglobal.com/ i gael mynediad at gannoedd o’r rhain am ddim.

Ddim yn aelod eto?

Ymunwch heddiw a dechreuwch fanteisio ar yr adnoddau am ddim ar unwaith.
YMAELODWCH HEDDIW

Dilynwch ni

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf am wasanaethau Llyfrgelloedd Abertawe-

Facebook
Twitter
Instagram