fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Darganfyddwch Abertawe Wledig yn ystod Seibiant Byr

Share

Darganfyddwch Abertawe Wledig yn ystod Seibiant Byr

 

  • Mwynhewch seibiant byr hamddenol gyda Cartref Holidays. Mae pob eiddo ar safle 1 erw Valley View ac mae pob un yn edrych dros warchodfa natur Cwm Clydach yr RSPB ac yn agos ati.
  • Ewch i Goed Cwm Penllergaer am heddwch a thawelwch. Gyda’i llynnoedd a’i rhaeadrau, terasau, golygfeydd panoramig a choed a llwyni egsotig, mae’r baradwys Fictoraidd hon yn cael ei hadfer a’i hadfywio’n ara’ deg gan Ymddiriedolaeth Penllergaer. Mae’r coed yn llawn bywyd gwyllt, gydag ambell las y dorlan i’w weld ar yr afon, ac mae bwncathod a barcutiaid coch yn ymwelwyr cyson. Mae’r rhododendronau – etifeddiaeth hel planhigion y teulu Dillwyn Llewelyn yn ystod y 19eg ganrif, ynghyd â charpedi o gennin Pedr a chlychau’r gog gwyllt, yn olygfa boblogaidd yn y gwanwyn.
  • Dewch i fwynhau cinio ysgafn yn Siop Goffi Coed Cwm Penllergaer. Mwynhewch deisen gartref flasus, brechdanau ffres, te hufen traddodiadol, hufen iâ, coffi ‘go iawn’ Masnach Deg, te arbenigol a dewis o ddiodydd oer.
  • Darganfyddwch Lwybr Cerdded Treftadaeth Pontarddulais. Cewch eich arwain drwy bentref bach Cymreig llawn straeon. Gyda dwy garreg goffa i nodi Terfysgoedd Beca, un ar bob pen y pentref, mae’n cynnwys mwy o wybodaeth am arwyr y frwydr honno, effaith y dref ar feirdd enwog megis Dylan ac Edward Thomas a safle Eglwys Teilo Sant o’r 7fed ganrif – a fu fyw yn yr un cyfnod â Dewi Sant ac a allai fod wedi cael ei ddewis i fod yn nawddsant Cymru. Taith gerdded gylchol drwy bentref Pontarddulais yw hon, sy’n cynnwys safle’r eglwys o’r 12fed ganrif, Llandeilo Tal-y-bont.

 

Neu, os rydych am fynd ar daith gerdded fwy heriol….

 

  • Beth am ymgymryd â’r daith gerdded gylchol 9 milltirar bwys Afon Clydach Isaf drwy goetir heddychlon i dir comin heb ei ddifetha sydd â safleoedd o ddiddordeb archaeolegol a golygfeydd ysblennydd tuag at Fannau Brycheiniog?
  • Ewch i’r Fountain Inn ym Mhontarddulais am eich pryd gyda’r hwyr a mwynhewch fwyd cartref a chwrw go iawn.

 
Rhannwch eich profiadau a’ch lluniau o’ch gwyliau â ni, dilynwch ni ar Facebook a Twittera chofiwch ddefnyddio’r hashnod: #HwylBaeAbertawe. Mwynhewch!