fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Antur Tri Diwrnod ym Mae Abertawe

Share

Antur Tri Diwrnod ym Mae Abertawe

 
Diwrnod 1

 

  • Cadwch eich lle am arhosiad yn Nhŷ Bynciau Hardingsdown, sy’n cynnig llety cyfforddus a fforddiadwy i unigolion, teuluoedd a grwpiau ar fferm organig weithredol yng nghanol penrhyn Gŵyr.
  • Treuliwch y diwrnod yn dringo creigiau ac yn abseilio yn lleoliad arobryn Bae’r Tri Chlogwyn gyda’r tîm yn Gower Adventures. Golygfeydd trawiadol a hwyl benigamp. Cofiwch ddod â’ch potel o ddŵr a’ch pecyn cinio!
  • Gallwch fynd am dro am 20 munud gyda’r hwyr heibio’r bryngaerydd o Oes yr Haearn i’r Kings Head inn at Llangennith, yn Llangynydd, sy’n dafarn pedair seren o’r 17eg ganrif lle gallwch fwynhau pryd blasus gyda’r hwyr (gallwch ddewis o lawer o brydau cartref wedi’u gwneud o gynnyrch Cymreig!).

 
Diwrnod 2
 

  • Cadwch eich lle am arhosiad dros nos yng Ngwesty The Oxwich Bay, sy’n dafliad carreg i ffwrdd o harddwch Bae Oxwich.
  • Ar ôl brecwast, gallwch fynd i gaban chwaraeon dŵr ym Mae Oxwich am sesiwn gaiacio gydag Oxwich Watersports. Dewch â phâr o drenyrs a siorts i’w gwisgo ar ben eich siwt ddŵr. Cofiwch gael hwyl!
  • Ewch am dro ym Mae Oxwich. Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am lwybr cerdded Trwyn Oxwich yma.
  • Dewch i ymweld â Chastell Oxwich, tŷ Tuduraidd crand wedi’i adeiladu ar ffurf iard sydd wedi goruchwylio pentref Oxwich ers cyfnod y Tuduriaid.
  • Mwynhewch eich pryd gyda’r hwyr yn y Beach House, Oxwich. SWedi’i osod mewn lleoliad arfordirol hardd ym Mae Oxwich, mae’r Beach House yn defnyddio cynnyrch lleol gwych, gan gynnwys gwymon Bae Oxwich.

 
Diwrnod 3
 

  • Cadwch eich lle am arhosiad dros nos yn Worm’s Head Hotel, sy’n edrych dros fae arobryn Rhosili (dyma’r trydydd traeth gorau yn y DU ar hyn o bryd – yn ôl defnyddwyr Trip Advisor).
  • Dewch i arfordiro gyda Rip n Rockyn Rhosili – bydd e’n ddiwrnod hwyl o antur llawn adrenalin yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.
  • Mwynhewch daith gerdded gylchol 2 filltir o gwmpas Rhosili a Phen Pyrod, lle gallwch gerdded hyd at Wylfa Gwylwyr y Glannau
  • Mwynhewch bryd gyda’r hwyr yn y Kings Head Inn, tafarn pedair seren o’r 17eg ganrif ym mhentref arfordirol Llangynydd. Mae tafarn y King’s Head wedi’i lleoli gyferbyn â’r eglwys fwyaf ym mhenrhyn Gŵyr ac mae mynediad hwylus i draeth Llangynydd lle mae’r tywod yn estyn i Rosili, bron pedair milltir i ffwrdd. Yn y bar traddodiadol sy’n llawn cymeriad gyda’i drawstiau a’i waliau cerrig datgeledig, mae amrywiaeth anhygoel o fwyd yn cael ei weini, ac mae llawer ohono’n cael ei baratoi ar y safle ac yn gynnyrch Cymreig ffres.

 
Rhannwch eich profiadau a’ch lluniau o’ch gwyliau â ni, dilynwch ni ar Facebook a Twitter aa chofiwch ddefnyddio’r hashnod: #HwylBaeAbertawe. Mwynhewch!